Addysgwr Ardystiedig Microsoft (MCE)



Dilyswch eich cymwyseddau technegol

Mae’r rhaglen Addysgwr Ardystiedig Microsoft yn rhaglen datblygu proffesiynol i roi sgiliau technegol byd-eang a hyder i addysgwyr i ddarparu profiadau dysgu wedi’u teilwra ar gyfer eu myfyrwyr gan ddefnyddio offer Microsoft. Rhaid i gyfranogwyr ardystiad MCE gwblhau arholiad yn llwyddiannus i ddangos cymhwysedd mewn amrywiaeth o offer Microsoft megis Word, Excel a PowerPoint.

I gychwyn arni, cysylltwch â ni ar digitalskills@uwtsd.ac.uk.