Arbenigwr Microsoft Office (MOS)



Enillwch Ardystiad Microsoft Office

Mae Arbenigwr Microsoft Office yn ardystiad cydnabyddedig yn y diwydiant sy’n dilysu hyfedredd mewn cymwysiadau meddalwedd Microsoft megis Word, Excel a PowerPoint. Er y gallwch ennill ardystiad trwy gwblhau a phasio asesiad yn llwyddiannus sy’n cadarnhau’r sgiliau technegol hynny, gallwch hefyd ei ddefnyddio i uwchsgilio ac ychwanegu’r anghenion hanfodol hynny i’ch repertoire. Bydd y cyflawniad hwn a gydnabyddir gan gyflogwyr yn fyd-eang yn helpu i sicrhau swydd uchel ei pharch i chi.

I gychwyn arni, cysylltwch â ni ar digitalskills@uwtsd.ac.uk.



Pwy all ei wneud?

Mae AMO yn agored i holl staff PCYDDS.  Unwaith ein bod wedi rhoi mynediad i chi, cewch weithio yn ôl eich cyflymder eich hun naill ai ar eich pen eich hun neu gyda grŵp o bobl eraill. Bydd ein Hymgynghorwyr Sgiliau Digidol yno i’ch cynorthwyo ar hyd y ffordd.

Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn cynnig hyn i garfannau o fyfyrwyr.  Felly, os ydych yn aelod o’r staff academaidd a hoffech i grŵp o’ch myfyrwyr gwblhau un o’r llwybrau hyn fel rhan o’u cwrs, mae croeso i chi hefyd gysylltu â ni.

Beth yw?

Unwaith eich bod wedi cofrestru gyda ni, bydd mynediad gyda chi i’r holl adnoddau hyfforddi, gan gynnwys tiwtorialau fideo ac enghreifftiau ymarferol.  Byddwn hefyd yn eich ychwanegu at safle ein Tîm AMO fel y cewch siarad ag eraill am eich profiad a gofyn am gymorth.



Os ydych chi'n awchu i fynd ac eisiau plymio'n syth i mewn, cofrestrwch isod:-