Mae cyfres o broffiliau rôl digidol sy'n cyd-fynd â Fframwaith Gallu Digidol Jisc wedi'u cynllunio i dynnu sylw at y galluoedd digidol sy'n gysylltiedig â rolau staff a myfyrwyr penodol.
Mae proffiliau rôl yn dangos y sgiliau digidol penodol sydd eu hangen ar staff a myfyrwyr i fod yn effeithiol yn eu rolau – o ran meysydd ymarfer cyfredol a newydd.
Maen nhw’n offeryn defnyddiol i helpu unigolion a'r rhai sy'n datblygu sgiliau pobl eraill er mwyn edrych yn gyfannol ar ddatblygu sgiliau digidol sy'n canolbwyntio ar rôl benodol, nodi anghenion datblygu sgiliau penodol a dechrau cynllunio taith ddatblygu.
Defnyddio proffiliau rôl i ddatblygu sgiliau digidol
Dyma rai enghreifftiau o sut y gallwch chi ddefnyddio proffiliau rôl ar gyfer datblygu sgiliau digidol.
Hunan-ddatblygu
- Asesu a myfyrio ar eich anghenion datblygu sgiliau digidol eich hun sy'n berthnasol i'ch rôl.
- Nodi meysydd i'w datblygu a chynllunio eich llwybr datblygu sgiliau digidol personol i wella sgiliau ac arferion digidol.
- Sicrhau fod eich galluoedd digidol yn cael eu cydnabod a'u credydu'n llawn, e.e. drwy drafodaeth a chydnabyddiaeth mewn adolygiadau datblygu, eu cynnwys ar eich CV neu eich proffil ar LinkedIn, a’u hachrediad â bathodynnau neu dystysgrifau.
Datblygu eraill
- Cychwyn sgyrsiau am ddatblygu sgiliau digidol a sefydlu iaith gyffredin yn seiliedig ar fodel Jisc.
- Adolygu anghenion datblygu sgiliau digidol staff unigol, e.e. trafodaeth yn yr Adolygiad Perfformiad a Datblygu a fesul 1.
- Asesu cryfderau a gwendidau’r tîm gyda’i gilydd a nodi meysydd lle mae angen datblygu neu recriwtio sgiliau.
- Sicrhau bod galluoedd digidol staff yn cael eu cydnabod a'u credydu'n llawn, e.e. drwy drafodaeth a chydnabyddiaeth mewn adolygiadau datblygu a’u hachredu â bathodynnau neu dystysgrifau.
- Darparu cyswllt ag amcanion strategol i sicrhau bod y sgiliau cywir yn cael eu datblygu yn eich staff i feithrin gallu i gyflawni amcanion tîm ac amcanion ehangach.
- Sicrhau bod galluoedd a chyfrifoldebau digidol yn cael eu hadlewyrchu mewn disgrifiadau swydd
Defnyddiwch hwn:
- Os ydych chi’n aelod staff neu'n fyfyriwr sy'n ceisio arweiniad ar y sgiliau digidol sy’n cyd-fynd orau â'ch rôl
- Os ydych yn staff neu'n fyfyriwr sy'n chwilio am ffocws sy'n benodol i rôl ar ddatblygu sgiliau digidol
- Fel sail ar gyfer sgyrsiau datblygu, adolygiadau a chynllunio (gan gynnwys yr Adolygiad o Berfformiad a Datblygiad)
Proffiliau Rôl sydd ar gael
Mae'r proffiliau rôl canlynol ar gael ar hyn o bryd. Cliciwch deitl y rôl i agor y ddogfen ar ffurf PDF.