Croeso i'r CanolfanDigidol



Gwella eich sgiliau digidol

Rydym wedi ymrwymo i helpu ein staff a'n myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau digidol a'r hyder y mae eu hangen arnynt. Dyma pam rydym wedi lansio CanolfanDigidol, siop un stop ar gyfer eich holl anghenion sgiliau digidol. Yma, fe welwch gasgliad o offer ac adnoddau i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol.

Dilynwch ein casgliad o adnoddau a argymhellir yn dibynnu ar eich rôl, neu cadwch lygad ar ein tudalen Hyfforddiant a Digwyddiadau.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad i ddatblygu Sgiliau Digidol yn ein Strategaeth Ddigidol 2021-23 yn Y Drindod Dewi Sant.


Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Gadewch i ni helpu!

Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, peidiwch â phoeni, mae help wrth law! Rydym wedi datblygu casgliad o adnoddau wedi'u teilwra i ddiwallu eich anghenion. Os ydych yn aelod o staff, neu'n fyfyriwr yma ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gallwch hefyd olrhain eich cynnydd i ennill nifer o fathodynnau digidol.

Mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff Gynghorydd Sgiliau Digidol sydd wedi’u neilltuo i’w pwnc astudio neu maes gwaith. Os oes angen ychydig o gymorth, cyngor neu anogaeth gyfeillgar arnoch, gallwch drefnu apwyntiad gydag aelod o’n tîm ar amser sy’n gyfleus i chi.


Archwiliwch ein casgliad Sgiliau Digidol

Gallwch gael mynediad at ein hystod lawn o adnoddau sgiliau digidol ar unrhyw adeg trwy glicio ar un o'r galluoedd sgiliau digidol canlynol. Mae llawer o'n cyrsiau yn dod o LinkedIn Learning, ac fel aelod o staff neu fyfyriwr, mae gennych fynediad am ddim. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru cyn defnyddio unrhyw un o gyrsiau LinkedIn Learning, drwy fewngofnodi gyda'ch manylion mewngofnodi yn y Brifysgol.

Drwy gadw cofnod o’r hyn rydych wedi'i ddysgu, gallwch ennill ystod o fathodynnau digidol y gallwch eu rhannu â chydweithwyr, cyd-fyfyrwyr a chyflogwyr yn y dyfodol i ddangos eich gwybodaeth. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw cwblhau 4 neu fwy o adnoddau o fewn pob gallu digidol. Darganfyddwch fwy am sut i ennill eich bathodynnau digidol.


Gweld eich adroddiad Sgiliau Digidol rhad ac am ddim

Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, byddem yn argymell cwblhau Offeryn Darganfod JISC. Holiadur hunanasesu yw hwn i werthuso eich lefelau sgiliau digidol cyfredol. Ar ôl ei gwblhau, bydd yn rhoi eich adroddiad personol eich hun i chi a fydd yn tynnu sylw at eich cryfderau yn ogystal â meysydd i wella arnynt. Bydd eich canlyniadau'n cyd-fynd â'r chwe elfen o allu digidol fel y'u diffinnir gan JISC, a byddant yn arwain drwy restr o adnoddau i helpu i ddatblygu'r meysydd y mae arnoch eu hangen. Mae Offeryn Darganfod JISC yn rhan o'r Fframwaith Sgiliau Digidol, sydd wedi'i gynllunio i'ch helpu i werthuso eich lefelau presennol o hyder digidol a myfyrio ar eich anghenion datblygu. Gall holl staff a myfyrwyr y Brifysgol ddefnyddio'r fframwaith gan gynnwys Staff Academaidd, Myfyrwyr, Ymchwilwyr ac Arweinwyr.

  • Ond yn cymryd 15 munud i'w lenwi
  • Mynediad am ddim i'ch adroddiad sgiliau digidol personol eich hun

Adnoddau Llyfrgell

Mae ein llyfrgell ar-lein ar gael bob awr o’r dydd a’r nos! Caiff staff a myfyrwyr fynediad i ystod eang o adnoddau electronig, yn cynnwys e-lyfrau, e-gyfnodolion, cronfeydd data arbenigol, papurau newydd ar-lein a llawer mwy.
Rhagor o Wybodaeth



Cyngor a chymorth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os ydych yn chwilio am gymorth pellach,
cysylltwch ag un o'n Hymgynghorwyr Sgiliau Digidol a byddant yn cysylltu â chi.
Cysylltwch â ni