Sgiliau Digidol Y Drindod Dewi Sant

Ynghylch Sgiliau Digidol

Group Discussion

Pam mae angen i ni ddatblygu sgiliau digidol yn y Brifysgol?

Mae datblygu sgiliau digidol ein staff a'n myfyrwyr ar flaen strategaeth y Brifysgol, ac mae'n sail i lawer o weithgareddau'r Brifysgol gan gynnwys ymdrech y sefydliad tuag at ddysgu cyfunol a datblygu strategaeth ddigidol sefydliadol newydd.

Mae'n bwysig ar lefel unigol a sefydliadol – cynyddu effeithlonrwydd a mantais gystadleuol y sefydliad, darparu addysgu o ansawdd uchel i'n myfyrwyr gan ddefnyddio technolegau cyfredol, gwneud y defnydd gorau o offer a dulliau ymchwil digidol a galluogi ein staff a'n myfyrwyr i weithredu'n effeithiol mewn byd digidol.

Manteision datblygu sgiliau digidol i bawb

Daw myfyrwyr i'r Brifysgol gyda disgwyliadau uchel a chynyddol o'r ffyrdd y dylid defnyddio technoleg wrth addysgu a hwyluso eu haddysg. Byd digidol yw eu byd nhw – maen nhw’n disgwyl y bydd y rhyngweithio â'r Brifysgol yn ddigidol, bydd y dysgu a’r addysgu yn ddigidol, a mynediad di-dor 24 awr at adnoddau a thechnoleg ddigidol.

Addysgu

Er mwyn bodloni disgwyliadau myfyrwyr, ein nod yw darparu amgylchedd dysgu ac addysgu digidol o'r ansawdd uchaf sy'n gwneud y defnydd gorau o dechnolegau newydd a thechnolegau sy'n datblygu. Mae hyn yn gofyn am staff addysgu sydd â sgiliau digidol datblygedig ac sy'n alluog ac sy’n gyfforddus wrth ddefnyddio technoleg i gefnogi addysgu ac asesu arloesol. Mae dysgu o bell ar raddfa yn datblygu'n gyflym, ac ar gampws, mae ein mannau dysgu ac addysgu yn parhau i wella. Mae'r datblygiadau hyn a datblygiadau eraill yn dangos y gofyniad parhaus i staff yn y Brifysgol ddiweddaru eu sgiliau digidol yn barhaus – ar gyfer addysgu ar-lein, cyfunol ac ar gampws.

Ymchwil

Ym maes ymchwil, mae sgiliau rheoli data digidol a delweddu yn hollbwysig, yn ddieithriad bellach mae gan gyllid ofyniad digidol, a bydd rôl technoleg wrth gynnal ymchwil yn parhau i ddatblygu.

Myfyrwyr

I'n myfyrwyr, rhaid inni ddarparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau digidol am eu hamser yn y Brifysgol a thu hwnt, boed hynny yn rhan o addysgu cwricwlaidd neu drwy ddysgu annibynnol y tu hwnt i'w prif raglen astudio. Gall sgiliau astudio digidol gynnwys chwilio am lenyddiaeth yn effeithlon, rheoli data, sgiliau cyfathrebu a chydweithredu, a gallu dysgu a myfyrio gan ddefnyddio offer digidol. Y tu hwnt i raddio, ein nod yw paratoi myfyrwyr ar gyfer pa lwybr bynnag y maent yn dewis ei ddilyn, gan eu galluogi i gyflawni'r safonau personol a phroffesiynol uchaf posibl ac i ateb y galw cynyddol gan gyflogwyr am raddedigion i gael sgiliau sy'n addas ar gyfer gweithle'r 21ain ganrif.

Y Brifysgol

Mae manteision sefydliadol datblygu sgiliau digidol yn canolbwyntio'n bennaf ar wella ac esblygu ein prosesau, effeithlonrwydd, ansawdd ac arfer da. Mae gan sefydliad sydd â gallu digidol fantais gystadleuol a gall ffynnu yn wyneb cystadleuaeth gynyddol gan sectorau addysg uwch sy'n tyfu ledled y byd. Drwy roi’r wedd ddigidol wrth galon popeth a wnawn a datblygu sgiliau ein staff a'n myfyrwyr i alluogi hyn, gallwn sicrhau bod y Brifysgol yn ffynnu mewn byd sy'n fwy ac yn fwy cysylltiedig a chystadleuol.