Datblygwyd yr Offeryn Darganfod Digidol gan Jisc ac mae'n holiadur hunanasesu ar-lein ar gyfer gwerthuso ac adfyfyrio ar eich galluoedd digidol, sy’n eich helpu i nodi cryfderau a meysydd i'w datblygu.
Drwy ateb y cwestiynau, byddwch yn dod yn ymwybodol o’r arferion digidol sydd gennych eisoes a rhai newydd y gallwch eu datblygu. Gall staff a myfyrwyr ddefnyddio'r Offeryn Darganfod Digidol yn offeryn annibynnol neu ar y cyd â Phroffiliau Rôl i ddarparu cyd-destun.
Mae'r offeryn datblygu sgiliau digidol hefyd yn cynnwys cwestiynau ychwanegol sy’n benodol i rôl y gellir eu gweld drwy'r banc cwestiynau.
Mae'r cwestiynau a'r adroddiad yn cyd-fynd â chwe elfen gallu digidol yn Fframwaith Gallu Digidol JISC.
Mae'r holiadur yn cymryd tua 20 munud i'w gwblhau ac yn cyflwyno cyfres o gwestiynau myfyriol sy'n anelu at asesu eich hyder a'ch profiad gyda llu o arferion digidol yn y byd go iawn.
Ar ôl cwblhau'r holiadur, byddwch yn derbyn adroddiad unigol sy’n dangos eich lefelau sgiliau digidol cyfredol ac sydd wedi'u rhannu'n chwe elfen o allu digidol a fydd yn dangos lefel eich cymhwysedd bresennol ym mhob un. Gallwch ddefnyddio'r adroddiad yn sail i gynllun datblygu.
Mae eich ymatebion i'r cwestiynau a'ch adroddiad yn breifat a dim ond os byddwch yn dewis ei rannu â nhw y bydd unigolion eraill fel eich rheolwr neu diwtor personol yn eu gweld.
I reolwyr, mae'n ffordd wych o lunio sgyrsiau arfarnu ynghylch datblygu sgiliau digidol gan ddefnyddio iaith gyffredin. Gellir cynhyrchu a defnyddio adroddiadau unigol hefyd, gyda chaniatâd y perchennog, i strwythuro'r sgyrsiau hyn.
Defnyddiwch hwn: