Sgiliau Digidol i Arweinwyr

Mae staff mewn rolau arwain ar draws y sector addysg uwch ac addysg bellach yn amrywiol, yn eu sefyllfaoedd sefydliadol a’r setiau sgiliau sydd eu hangen arnynt. Rydyn ni wedi creu casgliad o adnoddau sy’n galluogi arweinwyr o bob math i fyfyrio ar y galluoedd digidol sydd ganddynt a’r rhai sydd eu hangen arnynt.

I weld ein rhestr o adnoddau dysgu a argymhellir, bydd angen i chi fewngofnodi ar Moodle, ein hamgylchedd dysgu rhithwir. Rydym wedi cynnwys amrywiaeth o adnoddau, o ganllawiau ‘Sut i’ ar wefan Microsoft, i gyrsiau ar LinkedIn Learning. Yn aelod o staff, mae gennych fynediad am ddim i LinkedIn Learning. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru cyn defnyddio unrhyw un o gyrsiau LinkedIn Learning.

Mae’r holl adnoddau wedi cael eu mapio i’r Proffil Rôl Arweinydd Digidol a ddarparwyd gan Jisc. Mae’n cwmpasu ystod o alluoedd a allai fod ei angen ar arweinwyr digidol, beth bynnag yw eu cyfrifoldebau neu feysydd arbenigedd penodol.

Os byddwch yn cwblhau 4 neu ragor o adnoddau o fewn gallu digidol penodol, byddwch yn gymwys i wneud cais am amrywiaeth o fathodynnau digidol. Gallwch ddefnyddio’r bathodynnau hyn yn dystiolaeth o beth rydych wedi ei ddysgu, y gallwch eu rhannu â chydweithwyr a staff ehangach yn y Brifysgol neu drwy eich proffil LinkedIn i ddangos eich gwybodaeth a’ch sgiliau.



Dydw i ddim am ddilyn y llwybr dysgu a argymhellir.
Sut galla i fanteisio ar yr adnoddau hyn?

Does dim rhaid i chi ddilyn ein llwybr dysgu a argymhellir ar Moodle, gallwch fanteisio ar ein hystod lawn o adnoddau sgiliau digidol ar unrhyw adeg drwy glicio ar un o'r galluoedd sgiliau digidol canlynol. Manteisiwch ar ein casgliad o adnoddau ar-lein; cadwch nhw, eu trefnu a'u rhannu.

Drwy gadw cofnod o’r hyn rydych wedi'i ddysgu, gallwch ennill ystod o fathodynnau digidol y gallwch eu rhannu â chydweithwyr, cyd-fyfyrwyr a chyflogwyr yn y dyfodol i ddangos eich gwybodaeth. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw cwblhau 4 neu fwy o adnoddau o fewn pob gallu digidol. Darganfyddwch fwy am sut i ennill eich bathodynnau digidol.


Dydw i ddim yn gwybod ble i ddechrau. Beth dylwn i ei wneud?

Os nad ydych chi’n siŵr pa faes yr hoffech ei archwilio ymhellach, dechreuwch drwy lenwi Offeryn Darganfod JISC. Holiadur hunanasesu yw hwn i werthuso eich lefelau sgiliau digidol cyfredol. Ar ôl ei gwblhau, bydd yn rhoi eich adroddiad personol eich hun i chi a fydd yn tynnu sylw at eich cryfderau yn ogystal ag unrhyw feysydd yr hoffech wella arnynt.

Mae'r ymatebion i’r cwestiynau a’ch adroddiad yn breifat a dim ond unigolion eraill fel eich rheolwr neu diwtor personol fydd yn eu gweld os byddwch yn dewis ei rannu â nhw.





Cyngor a chymorth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os ydych yn chwilio am gymorth pellach,
cysylltwch ag un o'n Hymgynghorwyr Sgiliau Digidol a byddant yn cysylltu â chi.
Cysylltwch â ni