Sgiliau Digidol i Fyfyrwyr

Mae sawl offeryn a thechnoleg ddigidol a all eich helpu wrth astudio yn y Brifysgol.

I weld ein rhestr o adnoddau dysgu a argymhellir, bydd angen i chi fewngofnodi ar Moodle, ein hamgylchedd dysgu rhithwir. Rydym wedi cynnwys amrywiaeth o adnoddau, o ganllawiau ‘Sut i’ ar wefan Microsoft, i gyrsiau ar LinkedIn Learning. Yn fyfyriwr, mae gennych fynediad rhad ac am ddim i LinkedIn Learning. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru cyn defnyddio unrhyw un o gyrsiau LinkedIn Learning..

Bydd yr adnoddau hyn yn eich helpu i asesu ac adfyfyrio ar eich sgiliau digidol eich hun, nodi meysydd i'w datblygu, cynllunio eich llwybr datblygu sgiliau digidol personol a sicrhau bod eich sgiliau digidol yn cael eu cydnabod yn llawn drwy ennill bathodynnau digidol y gellir eu cynnwys ar eich CV a'ch proffil LinkedIn.

I ennill bathodyn digidol, cwblhewch 4 neu ragor o adnoddau mewn gallu digidol penodol. Gallwch ddefnyddio'r bathodynnau hyn yn dystiolaeth o'r hyn rydych wedi’i ddysgu, y gallwch ei rhannu â chyd-fyfyrwyr, darlithwyr a chyflogwyr yn y dyfodol i ddangos eich gwybodaeth a'ch sgiliau.



Nid wyf am ddilyn y llwybr dysgu a argymhellir. Sut galla i fanteisio ar yr adnoddau hyn?

Does rhaid i chi ddilyn ein llwybr dysgu a argymhellir yn Moodle, gallwch gael mynediad i'n hystod lawn o adnoddau sgiliau digidol ar unrhyw adeg drwy glicio ar un o'r galluoedd sgiliau digidol canlynol. Cael mynediad i'n casgliad o adnoddau ar-lein; eu cadw, trefnwch nhw a'u rhannu.

Drwy gadw cofnod o’r hyn rydych wedi'i ddysgu, gallwch ennill ystod o fathodynnau digidol y gallwch eu rhannu â chydweithwyr, cyd-fyfyrwyr a chyflogwyr yn y dyfodol i ddangos eich gwybodaeth. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw cwblhau 4 neu fwy o adnoddau o fewn pob gallu digidol. Darganfyddwch fwy am sut i ennill eich bathodynnau digidol.


Dydw i ddim yn gwybod ble i ddechrau. Beth dylwn i ei wneud?

Os nad ydych chi’n siŵr pa faes yr hoffech ei archwilio ymhellach, dechreuwch drwy lenwi Offeryn Darganfod JISC. Holiadur hunanasesu yw hwn i werthuso eich lefelau sgiliau digidol cyfredol. Ar ôl ei gwblhau, bydd yn rhoi eich adroddiad personol eich hun i chi a fydd yn tynnu sylw at eich cryfderau yn ogystal ag unrhyw feysydd yr hoffech wella arnynt.

Mae'r ymatebion i'r cwestiynau a'ch adroddiad yn breifat a dim ond unigolion eraill fel eich rheolwr neu diwtor personol fydd yn eu gweld os byddwch yn dewis ei rannu â nhw.





Cyngor a chymorth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os ydych yn chwilio am gymorth pellach,
cysylltwch ag un o'n Hymgynghorwyr Sgiliau Digidol a byddant yn cysylltu â chi.
Cysylltwch â ni