Sgiliau Digidol ar gyfer Staff Academaidd

Mae sawl offeryn a mathau o dechnoleg ddigidol a all eich helpu yn eich ymarfer addysgu.

Pa un a ydych wedi nodi meysydd i'w gwella, neu os hoffech ddysgu mwy am offeryn digidol penodol, gobeithiwn y bydd y casgliadau canlynol yn eich helpu i'ch tywys drwy ystod o adnoddau sydd ar gael i chi.

I weld ein rhestr o adnoddau dysgu a argymhellir, bydd angen i chi fewngofnodi ar Moodle, ein hamgylchedd dysgu rhithwir. Rydym wedi cynnwys amrywiaeth o adnoddau, o ganllawiau ‘Sut i’ ar wefan Microsoft, i gyrsiau ar LinkedIn Learning. Yn aelod o staff, mae gennych fynediad am ddim i LinkedIn Learning. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru cyn defnyddio unrhyw un o gyrsiau LinkedIn Learning.

Mae'r holl adnoddau wedi'u mapio ar broffil rôl Athrawon AU a ddarparwyd gan Jisc, sy'n canolbwyntio ar y galluoedd digidol sy'n berthnasol i weithwyr addysgu proffesiynol sy'n gweithio yn y sector addysg uwch (AU). Mae'n bwysig pwysleisio na fydd gan unrhyw un yr holl alluoedd yn y proffil hwn. Bwriad hwn yw dangos sut mae meysydd ymarfer newydd yn dod i'r amlwg a sut y gallwch ddefnyddio'ch sgiliau digidol yng ngwahanol feysydd eich rôl.

Os byddwch yn cwblhau 4 neu ragor o adnoddau o fewn gallu digidol penodol, byddwch yn gymwys i wneud cais am amrywiaeth o fathodynnau digidol. Gallwch ddefnyddio'r bathodynnau hyn yn dystiolaeth o beth rydych wedi ei ddysgu, y gallwch eu rhannu â chydweithwyr a staff ehangach yn y Brifysgol neu drwy eich proffil LinkedIn i ddangos eich gwybodaeth a'ch sgiliau.



Dydw i ddim am ddilyn y llwybr dysgu a argymhellir.
Sut galla i fanteisio ar yr adnoddau hyn?

Does dim rhaid i chi ddilyn ein llwybr dysgu a argymhellir ar Moodle, gallwch fanteisio ar ein hystod lawn o adnoddau sgiliau digidol ar unrhyw adeg drwy glicio ar un o'r galluoedd sgiliau digidol canlynol. Manteisiwch ar ein casgliad o adnoddau ar-lein; cadwch nhw, eu trefnu a'u rhannu.

Drwy gadw cofnod o’r hyn rydych wedi'i ddysgu, gallwch ennill ystod o fathodynnau digidol y gallwch eu rhannu â chydweithwyr, cyd-fyfyrwyr a chyflogwyr yn y dyfodol i ddangos eich gwybodaeth. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw cwblhau 4 neu fwy o adnoddau o fewn pob gallu digidol. Darganfyddwch fwy am sut i ennill eich bathodynnau digidol.


Dydw i ddim yn gwybod ble i ddechrau. Beth dylwn i ei wneud?

Os nad ydych chi’n siŵr pa faes yr hoffech ei archwilio ymhellach, dechreuwch drwy lenwi Offeryn Darganfod JISC. Holiadur hunanasesu yw hwn i werthuso eich lefelau sgiliau digidol cyfredol. Ar ôl ei gwblhau, bydd yn rhoi eich adroddiad personol eich hun i chi a fydd yn tynnu sylw at eich cryfderau yn ogystal ag unrhyw feysydd yr hoffech wella arnynt.

Mae'r ymatebion i'r cwestiynau a'ch adroddiad yn breifat a dim ond unigolion eraill fel eich rheolwr neu diwtor personol fydd yn eu gweld os byddwch yn dewis ei rannu â nhw.





Cyngor a chymorth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os ydych yn chwilio am gymorth pellach,
cysylltwch ag un o'n Hymgynghorwyr Sgiliau Digidol a byddant yn cysylltu â chi.
Cysylltwch â ni