Sgiliau Digidol Y Drindod Dewi Sant

Dysgu Digidol Datblygu ac Addysgu

Y gallu i gymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu digidol ac elwa o’r rhain, gan gefnogi a datblygu eraill mewn lleoliadau sy'n gyfoethog o safbwynt digidol.

Woman with tablet and phone

Pecyn Cymorth Mynediad

DYSGU AR-LEIN

Mae'r pecynnau cymorth sgiliau digidol ar gyfer dechreuwyr wedi'u cynllunio i roi trosolwg eang i chi ar bob un o'r chwe gallu digidol y mae ein Fframwaith Sgiliau Digidol yn seiliedig arnynt, a'ch nod yw eich helpu i ddechrau datblygu eich sgiliau yn y meysydd hyn. Mae pob pecyn cymorth yn rhoi mynediad i chi at gynnwys wedi'i drefnu'n benodol gan ddarparu dolenni at ryw 10 adnodd – fideos, gweithgareddau, erthyglau – y gallwch eu darllen, gwylio, gwrando arnynt a chymryd rhan ynddynt. Gallwch ddewis a dethol yr adnoddau sydd fwyaf perthnasol i chi neu gwblhau pob un.

DECHRAU / GET STARTED

Student working on laptop and screen

PECYNNAU CYMORTH UWCH

DYSGU AR-LEIN

Mae'r pecynnau cymorth sgiliau digidol uwch yn cynnwys adnoddau dysgu a ddewisir yn arbennig gan arbenigwyr pwnc yn y Brifysgol, mewn cydweithrediad â'r tîm Sgiliau Digidol, ac maen nhw’n darparu opsiynau dysgu mwy heriol i ddatblygu eich sgiliau digidol yn fanwl.

DECHRAU / GET STARTED