115 Sut Gaf i Fynediad i Adobe Creative Cloud?

Cewch fynediad i ystod o feddalwedd greu ddigidol yn rhad ac am ddim fel aelod o staff yn y Drindod Dewi Sant. Ymhlith pethau eraill cewch fynediad i offer golygu delweddau a fideo. Mae rhai myfyrwyr hefyd yn gymwys i gael mynediad iddi yn ddibynnol ar eu cwrs.

433 Cychwyn gyda Premiere Pro ar gyfer y dibrofiad ym maes fideo

Ydych chi’n cael eich hun mewn sefyllfa lle mae angen i chi olygu fideo ond nid ydych yn gwybod ble mae dechrau? Os ydych chi’n defnyddio Adobe Creative Cloud, mae gennych fynediad at gymhwysiad gwych – Adobe Premiere Pro – ond mae’n gallu bod yn anodd iawn i’w ddysgu ar eich pen eich hun. Gall […]

432 Cynghorion Cyflym Premiere Pro

Dysgwch dechnegau newydd i wella cyflymder ac effeithlonrwydd wrth olygu a chyflawni gweithredoedd bob dydd ym mhaneli cymhwyso Adobe Premiere Pro. Mae’r hyfforddwr Christine Steele yn ymdrin â phynciau megis technegau golygu paneli Source, Program a Timeline, effeithiau wedi’u symleiddio a sgiliau gorffen, a llifoedd gwaith amgen a llwybrau byr sy’n lleihau gweithredoedd ailadroddus.

434 Hyfforddiant Hanfodol Premiere Pro 2022–2024

Mae fideo’n ffurf gelf bersonol, bwerus a dynamig. Er mwyn trawsnewid deunydd crai yn straeon dylanwadol, mae gwneuthurwyr a golygyddion ffilm yn troi at Adobe Premiere Pro, y cymhwysiad sy’n arwain y diwydiant. Mae’r cwrs hwn yn helpu dechreuwyr i ddatgloi potensial yr argraffiad diweddaraf, Premiere Pro 2022.

418 Cynghorion Cyflym Photoshop

Weithiau, mae angen i chi eistedd i lawr a mynd ati go iawn i ddysgu am fanylion rhaglen. Bryd arall, does gennych chi ddim amser i wneud hynny. Yn y cwrs hwn, mae Jan Kabili’n mynd trwy gyfres o gynghorion cyflym am Photoshop, gyda’r nod o ddatrys problemau a thasgau cyffredin yn gyflym.