Sgiliau Digidol Ar Gyfer Staff Gwasanaethau Proffesiynol

Mae yna lawer o rolau gwasanaeth proffesiynol ar draws y sectorau addysg uwch a phellach, yn wahanol yn eu sefyllfaoedd sefydliadol a’r setiau sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw. Rydym wedi creu casgliad o adnoddau y gall staff gwasanaethau proffesiynol mewn gwahanol rolau eu cyrchu i adlewyrchu’r galluoedd digidol sydd ganddynt – ac sydd eu hangen.

I weld ein rhestr o adnoddau dysgu a argymhellir, bydd angen i chi fewngofnodi ar Moodle, ein hamgylchedd dysgu rhithwir. Rydym wedi cynnwys amrywiaeth o adnoddau, o ganllawiau ‘Sut i’ ar wefan Microsoft, i gyrsiau ar LinkedIn Learning. Yn aelod o staff, mae gennych fynediad am ddim i LinkedIn Learning. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru cyn defnyddio unrhyw un o gyrsiau LinkedIn Learning.

A phone with a red Adobe logo on its cover.
A young man in a leather jacket standing in front of a whiteboard showing the words Start Up.
A smiling women speaks in front of a Panopto camera.
woman smiling at a laptop

Mae’r holl adnoddau wedi’u mapio i’r proffil rôl gwasanaethau proffesiynol mewn addysg sydd wedi’i ddarparu gan JISC. Mae’n cwmpasu ystod o alluoedd a allai fod ei angen ar staff gwasanaethau proffesiynol mewn addysg, beth bynnag yw eu cyfrifoldebau neu feysydd arbenigedd penodol.

Mae’n bwysig pwysleisio na fydd gan unrhyw un yr holl alluoedd wedi’u cynnwys yn y proffil hwn. Bwriad hyn yw dangos sut mae meysydd ymarfer newydd yn dod i’r amlwg a sut y gallwch chi ddefnyddio’ch sgiliau digidol mewn gwahanol feysydd o’ch rôl.

Os byddwch yn cwblhau 4 neu ragor o adnoddau o fewn gallu digidol penodol, byddwch yn gymwys i wneud cais am amrywiaeth o fathodynnau digidol. Gallwch ddefnyddio’r bathodynnau hyn yn dystiolaeth o beth rydych wedi ei ddysgu, y gallwch eu rhannu â chydweithwyr a staff ehangach yn y Brifysgol neu drwy eich proffil LinkedIn i ddangos eich gwybodaeth a’ch sgiliau.

Dydw i ddim am ddilyn y llwybr dysgu a argymhellir. Sut galla i fanteisio ar yr adnoddau hyn?

Does dim rhaid i chi ddilyn ein llwybr dysgu a argymhellir ar Moodle, gallwch fanteisio ar ein hystod lawn o adnoddau sgiliau digidol ar unrhyw adeg drwy glicio ar un o’r galluoedd sgiliau digidol canlynol. Manteisiwch ar ein casgliad o adnoddau ar-lein; cadwch nhw, eu trefnu a’u rhannu.

Drwy gadw cofnod o’r hyn rydych wedi’i ddysgu, gallwch ennill ystod o fathodynnau digidol y gallwch eu rhannu â chydweithwyr, cyd-fyfyrwyr a chyflogwyr yn y dyfodol i ddangos eich gwybodaeth. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw cwblhau 4 neu fwy o adnoddau o fewn pob gallu digidol. Darganfyddwch fwy am sut i ennill eich bathodynnau digidol.

Dydw i ddim yn gwybod ble i ddechrau. Beth dylwn i ei wneud?

Os nad ydych chi’n siŵr pa faes yr hoffech ei archwilio ymhellach, dechreuwch drwy lenwi Offeryn Darganfod JISC. Holiadur hunanasesu yw hwn i werthuso eich lefelau sgiliau digidol cyfredol. Ar ôl ei gwblhau, bydd yn rhoi eich adroddiad personol eich hun i chi a fydd yn tynnu sylw at eich cryfderau yn ogystal ag unrhyw feysydd yr hoffech wella arnynt.

Mae’r ymatebion i’r cwestiynau a’ch adroddiad yn breifat a dim ond unigolion eraill fel eich rheolwr neu diwtor personol fydd yn eu gweld os byddwch yn dewis ei rannu â nhw.

Cyngor a chefnogaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os ydych yn chwilio am gymorth pellach,
cysylltwch ag un o’n Hymgynghorwyr Sgiliau Digidol a byddant yn cysylltu â chi.