
Sgiliau Digidol i Ymchwilwyr
Mae nifer o offer a thechnolegau digidol ar gael i’ch helpu gyda’ch ymchwil, o offer i’ch helpu i gynnal eich ymchwil, i offer dadansoddi data.
I weld ein rhestr o adnoddau dysgu a argymhellir, bydd angen i chi fewngofnodi ar Moodle, ein hamgylchedd dysgu rhithwir. Rydym wedi cynnwys amrywiaeth o adnoddau, o ganllawiau ‘Sut i’ ar wefan Microsoft, i gyrsiau ar LinkedIn Learning. Yn aelod o staff, mae gennych fynediad am ddim i LinkedIn Learning. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru cyn defnyddio unrhyw un o gyrsiau LinkedIn Learning.
All the resources have been mapped to the Researcher role profile that has been provided by Jisc, which focuses on the digital capabilities relevant to researchers and research students within higher education (HE).





Mae’r holl adnoddau wedi cael eu mapio i’r Proffil Rôl Ymchwilydd a ddarparwyd gan Jisc, sy’n canolbwyntio ar y galluoedd digidol sy’n berthnasol i ymchwilwyr a myfyrwyr ymchwil ym myd addysg uwch (AU). Bydd yr adnoddau hyn yn eich helpu i asesu ac adfyfyrio ar eich sgiliau digidol eich hun, nodi meysydd i’w datblygu, cynllunio eich llwybr datblygu sgiliau digidol personol a sicrhau bod eich sgiliau digidol yn cael eu cydnabod yn llawn drwy ennill bathodynnau digidol y gellir eu cynnwys ar eich CV a’ch proffil LinkedIn.
Mae’n bwysig pwysleisio na fydd gan unrhyw un yr holl alluoedd wedi’u cynnwys yn y proffil hwn. Bwriad hyn yw dangos sut mae meysydd ymarfer newydd yn dod i’r amlwg a sut y gallwch chi ddefnyddio’ch sgiliau digidol mewn gwahanol feysydd o’ch rôl.
Os byddwch yn cwblhau 4 neu ragor o adnoddau o fewn gallu digidol penodol, byddwch yn gymwys i wneud cais am amrywiaeth o fathodynnau digidol. Gallwch ddefnyddio’r bathodynnau hyn yn dystiolaeth o beth rydych wedi ei ddysgu, y gallwch eu rhannu â chydweithwyr a staff ehangach yn y Brifysgol neu drwy eich proffil LinkedIn i ddangos eich gwybodaeth a’ch sgiliau.
Dydw i ddim am ddilyn y llwybr dysgu a argymhellir. Sut galla i fanteisio ar yr adnoddau hyn?
Does dim rhaid i chi ddilyn ein llwybr dysgu a argymhellir ar Moodle, gallwch fanteisio ar ein hystod lawn o adnoddau sgiliau digidol ar unrhyw adeg drwy glicio ar un o’r galluoedd sgiliau digidol canlynol. Manteisiwch ar ein casgliad o adnoddau ar-lein; cadwch nhw, eu trefnu a’u rhannu.
Drwy gadw cofnod o’r hyn rydych wedi’i ddysgu, gallwch ennill ystod o fathodynnau digidol y gallwch eu rhannu â chydweithwyr, cyd-fyfyrwyr a chyflogwyr yn y dyfodol i ddangos eich gwybodaeth. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw cwblhau 4 neu fwy o adnoddau o fewn pob gallu digidol. Darganfyddwch fwy am sut i ennill eich bathodynnau digidol.
Dydw i ddim yn gwybod ble i ddechrau. Beth dylwn i ei wneud?
Os nad ydych chi’n siŵr pa faes yr hoffech ei archwilio ymhellach, dechreuwch drwy lenwi Offeryn Darganfod JISC. Holiadur hunanasesu yw hwn i werthuso eich lefelau sgiliau digidol cyfredol. Ar ôl ei gwblhau, bydd yn rhoi eich adroddiad personol eich hun i chi a fydd yn tynnu sylw at eich cryfderau yn ogystal ag unrhyw feysydd yr hoffech wella arnynt.
Mae’r ymatebion i’r cwestiynau a’ch adroddiad yn breifat a dim ond unigolion eraill fel eich rheolwr neu diwtor personol fydd yn eu gweld os byddwch yn dewis ei rannu â nhw.
Cyngor a chefnogaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os ydych yn chwilio am gymorth pellach,
cysylltwch ag un o’n Hymgynghorwyr Sgiliau Digidol a byddant yn cysylltu â chi.
Ebost: sgiliaudigidol@pcydds.ac.uk