213 Photoshop i Olygyddion Fideo: Sgiliau Craidd
Dysgwch am nodweddion Adobe Photoshop sy’n ddefnyddiol i olygyddion fideo. Mae’r hyfforddwr Rich Harrington yn disgrifio cysyniadau delweddu digidol craidd ac yn dangos sut i wneud addasiadau delwedd sylfaenol, megis cywiro dinoethiad a chyferbyniad.
419 Hyfforddiant Hanfodol Photoshop 2023
Pa un a ydych yn weithiwr proffesiynol creadigol profiadol neu’n awyddus i wneud yn fawr o’ch camera newydd, y buddsoddiad gorau y gallwch ei wneud i elwa cymaint â phosibl ar eich picseli yw dysgu sut i ddefnyddio Photoshop 2023 yn effeithlon ac yn effeithiol. Mae Photoshop yn gynnyrch manwl, cymhleth sydd weithiau’n ddigon i […]
429 Graffeg Symudol ar gyfer y Cyfryngau Cymdeithasol
Gwellwch eich effaith ar y cyfryngau cymdeithasol drwy greu cynnwys sy’n dal sylw. Mae’r sianeli a’r ymgyrchoedd mwyaf llwyddiannus ar y cyfryngau cymdeithasol yn seiliedig ar fideos, gan gyfuno cyfathrebu â dyluniad symudol cadarn.
427 Lightroom: Cael Canlyniadau Proffesiynol
Archwiliwch alluoedd pwerus Adobe Lightroom o ran gwella ffotograffau i drawsffurfio delweddau cyffredin yn ffotograffau proffesiynol yr olwg. Dysgwch sut i docio delweddau i sicrhau cyfansoddiad gwell, cywiro ffotograffau i gael lliw anhygoel, a gwella goleuo a dinoethiad. Darganfyddwch ffyrdd o wella manylion, dysgwch sut i ddefnyddio’r histogram, a dysgu pryd y gallai fod angen […]
426 Hyfforddiant Hanfodol Lightroom Classic
Mae Lightroom Classic yn rhaglen rheoli, gwella a chyhoeddi ffotograffau hynod boblogaidd sydd wedi’i integreiddio’n llawn ag Adobe Creative Cloud. Cymerwch yr hyn rydych chi’n ei wybod am Lightroom Classic CC – p’un a yw hynny’n ychydig neu’n llawer – a’i wella ymhellach gyda’r hyfforddiant hanfodol hwn gan yr artist graffig a’r addysgwr Theresa Jackson.
420 Dysgu Defnyddio Ffotograffau ac Asedau Stoc
Mae delweddau a darluniau stoc yn adnodd gwych. Gallwch gaffael asedau’n gyflym ac yn rhad, a chael mynediad at amrywiaeth eang o bynciau ac arddulliau. Mae’r cwrs hwn yn amlinellu manteision defnyddio ffotograffau ac asedau stoc ac yn dangos sut i ddod o hyd i ddelweddau a’u prynu o’r safleoedd ffotograffiaeth stoc mwyaf poblogaidd, gan […]
412 Dysgu am Gynhyrchu Printiau: Photoshop, Illustrator, InDesign, ac Acrobat
Os ydych chi’n gweithio ym maes cynhyrchu printiau – pa un a ydych yn ddylunydd, yn artist cynhyrchu neu’n swyddog paratoi ar gyfer y wasg sy’n delio â ffeiliau cleientiaid – yr un yw’r nod i bawb yn gyffredinol: defnyddio’r feddalwedd heb achosi problemau pan fydd y gwaith yn cyrraedd y wasg. Er bod y […]
411 Dysgu am Adobe Photoshop, InDesign ac Illustrator
Mae Adobe Photoshop, InDesign, ac Illustrator yn offer craidd ar gyfer dylunwyr graffig. Bydd y llwybr dysgu hwn yn eich cynorthwyo i feistroli’r cymwysiadau pwerus hyn sydd o safon diwydiant a datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer gyrfa ym maes dylunio graffig.
417 Cyflwyniad i Ddylunio Graffig: Photoshop
Mae dylunio’n gelfyddyd gymhleth sy’n gofyn am nifer o sgiliau ac offer gwahanol. Yn y cwrs hwn, mae’r hyfforddwr Tony Harmer yn ymdrin â rhai sgiliau craidd yn Photoshop y mae angen i bob dylunydd eu gwybod. Mae Tony’n dangos sut i docio delwedd, gwneud grid rheol traeanau a dileu cefndir.
145 Cyflwyniad i Ddylunio Graffig: InDesign
Mae’r gyfres Cyflwyniad i Ddylunio Graffig yn cwmpasu’r cysyniadau a’r feddalwedd y mae angen i bob dylunydd fod yn gyfarwydd â nhw ac mae’n esbonio sut maent yn ffitio i mewn i lif gwaith dylunio graffig nodweddiadol.