341 – Canllawiau Argraffu, Copïo a Sganio

Mae’r gwasanaethau hyn ar gael i fyfyrwyr a staff  ar draws holl ganolfannau adnoddau dysgu’r Brifysgol yn ogystal ag ystafelloedd cyfrifiaduron penodol. Mae PCYDDS yn defnyddio dyfeisiau aml-swyddogaeth (MFDs) sydd â swyddogaethau argraffu, copïo a sganio ar gael mewn lliw llawn neu mewn du a gwyn.

201 Diogelwch Ar-Lein (Learn My Way)

Os ydych hi’n defnyddio’r rhyngrwyd efallai bod angen i chi feddwl am aros yn ddiogel ar-lein. Bydd y pwnc hwn yn helpu i’ch cadw chi, eich gwybodaeth bersonol a’ch dyfeisiau’n ddiogel.

200 Hanfodion Ar-Lein (Learn My Way)

Sut i chwilio ac archwilio’r rhyngrwyd, cadw mewn cysylltiad gydag e-byst, a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus ar-lein – i gyd wrth gadw’n ddiogel.  Sylwch y bydd angen i chi gofrestru am ddim i gael mynediad i’r cwrs hwn

196 Hyfforddiant Hanfodol Office Online

Office Online (Office Web Apps gynt) yw’r fersiwn o Office sydd ar y we ar gyfer cydweithio wrth fynd. Dysgwch sut i greu, golygu, a rhannu dogfennau Microsoft Word, Excel, PowerPoint ac OneNote gan ddefnyddio Office Online.

061 – Sylfeini Seiberddiogelwch

Gosodwch sylfaen gadarn ar gyfer eich rhwydwaith, defnyddwyr, a data drwy ddysgu hanfodion seiberddiogelwch. Archwiliwch fframweithiau allweddol, bygythiadau, a strategaethau ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau.

057 – Creu Profiadau Dysgu Cynhwysol

Yn y cwrs hwn, bydd yr arbenigydd dysgu a datblygu Naphtali Bryant yn dangos pŵer profiadau dysgu cynhwysol a sut gallant agor y drws i bobl o bob hunaniaeth, cefndir, a safbwynt tuag at well cyflawniad a boddhad.

054 – Creu Strategaeth Gyfathrebu

Dysgwch sut i ddatblygu strategaeth gyfathrebu sy’n gallu eich helpu i fod yn gyfathrebwr meistrolgar a thorri drwy’r sŵn, gan gysylltu â’ch cynulleidfa’n gyson ac yn eglur.