229 – Awgrymiadau Cynhyrchiant: Defnyddio Technoleg
Yn y rhifyn hwn o’r gyfres Awgrymiadau Cynhyrchiant, mae’r awdur a siaradwr ar arweinyddiaeth gynhyrchiol, Dave Crenshaw, yn eich helpu i fod yn gyfforddus gyda thechnoleg ac yn esbonio sut i fanteisio ar offer a nodweddion penodol i wneud yn fawr o’ch diwrnod gwaith.
341 – Canllawiau Argraffu, Copïo a Sganio
Mae’r gwasanaethau hyn ar gael i fyfyrwyr a staff ar draws holl ganolfannau adnoddau dysgu’r Brifysgol yn ogystal ag ystafelloedd cyfrifiaduron penodol. Mae PCYDDS yn defnyddio dyfeisiau aml-swyddogaeth (MFDs) sydd â swyddogaethau argraffu, copïo a sganio ar gael mewn lliw llawn neu mewn du a gwyn.
082 – Sgiliau ac Offer Hanfodol i Ffynnu yn y Gweithle Ar-lein
Bwriad y pwnc hwn yw sicrhau eich bod yn hyderus gyda phopeth y gallai fod angen i ffynnu yn y Gweithle ar-lein.
208 – Trosolwg o Dimau a Sianeli ym Microsoft Teams
Ym Microsoft Teams, mae “Timau” yn grwpiau o bobl sy’n dod at ei gilydd ar gyfer gwaith, prosiectau neu ddiddordebau cyffredin.
201 – Diogelwch Ar-Lein (Learn My Way)
Os ydych hi’n defnyddio’r rhyngrwyd efallai bod angen i chi feddwl am aros yn ddiogel ar-lein. Bydd y pwnc hwn yn helpu i’ch cadw chi, eich gwybodaeth bersonol a’ch dyfeisiau’n ddiogel. Sylwch y bydd angen i chi gofrestru am ddim i gael mynediad i’r cwrs hwn.
200 – Hanfodion Ar-Lein (Learn My Way)
Sut i chwilio ac archwilio’r rhyngrwyd, cadw mewn cysylltiad gydag e-byst, a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus ar-lein – i gyd wrth gadw’n ddiogel. Sylwch y bydd angen i chi gofrestru am ddim i gael mynediad i’r cwrs hwn
196 – Hyfforddiant Hanfodol Office Online
Office Online (Office Web Apps gynt) yw’r fersiwn o Office sydd ar y we ar gyfer cydweithio wrth fynd. Dysgwch sut i greu, golygu, a rhannu dogfennau Microsoft Word, Excel, PowerPoint ac OneNote gan ddefnyddio Office Online.
061 – Sylfeini Seiberddiogelwch
Gosodwch sylfaen gadarn ar gyfer eich rhwydwaith, defnyddwyr, a data drwy ddysgu hanfodion seiberddiogelwch. Archwiliwch fframweithiau allweddol, bygythiadau, a strategaethau ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau.
057 – Creu Profiadau Dysgu Cynhwysol
Yn y cwrs hwn, bydd yr arbenigydd dysgu a datblygu Naphtali Bryant yn dangos pŵer profiadau dysgu cynhwysol a sut gallant agor y drws i bobl o bob hunaniaeth, cefndir, a safbwynt tuag at well cyflawniad a boddhad.
055 – Creu a Rheoli Sianel YouTube
Dysgwch sut i gychwyn sianel YouTube, cynyddu eich tanysgrifwyr, a throsi cliciau’n weithredu.