221 Awgrymiadau ar gyfer Defnyddio Sway

Eisiau creu ffeil Sway sydd hyd yn oed yn fwy llawn o nodweddion? Mae’r fideo hwn yn archwilio’r gwahanol ffyrdd y gallwch reoli sut mae delweddau’n cael eu harddangos yn cynnwys sioeau sleidiau, staciau, cymharu, a phwyntiau ffocws.

219 Cynhyrchu Print: Argraffu Digidol a Data Newidiol

Yn y cwrs hwn mae Claudia McCue yn adolygu’r mathau o brosiectau sy’n briodol ar gyfer argraffu digidol, effaith lliw digidol, a sut gall data newidiol ganiatáu i chi roi gwedd bersonol ar eich gwaith argraffu digidol.

432 Cynghorion Cyflym Premiere Pro

Dysgwch dechnegau newydd i wella cyflymder ac effeithlonrwydd wrth olygu a chyflawni gweithredoedd bob dydd ym mhaneli cymhwyso Adobe Premiere Pro. Mae’r hyfforddwr Christine Steele yn ymdrin â phynciau megis technegau golygu paneli Source, Program a Timeline, effeithiau wedi’u symleiddio a sgiliau gorffen, a llifoedd gwaith amgen a llwybrau byr sy’n lleihau gweithredoedd ailadroddus.

434 Hyfforddiant Hanfodol Premiere Pro 2022–2024

Mae fideo’n ffurf gelf bersonol, bwerus a dynamig. Er mwyn trawsnewid deunydd crai yn straeon dylanwadol, mae gwneuthurwyr a golygyddion ffilm yn troi at Adobe Premiere Pro, y cymhwysiad sy’n arwain y diwydiant. Mae’r cwrs hwn yn helpu dechreuwyr i ddatgloi potensial yr argraffiad diweddaraf, Premiere Pro 2022.

216 PowerPoint i Athrawon: Creu Gwersi Rhyngweithiol

Dysgwch sut i greu gweithgareddau dysgu dynamig, ymarferol sy’n canolbwyntio ar y myfyrwyr gan ddefnyddio PowerPoint. Os ydych wedi defnyddio PowerPoint yn lle llyfr yn y gorffennol, dysgwch sut i symud i’w ddefnyddio’n offeryn, gan gyfoethogi eich addysgu â thrafodaeth, gweithgareddau, ac elfennau amlgyfrwng.

418 Cynghorion Cyflym Photoshop

Weithiau, mae angen i chi eistedd i lawr a mynd ati go iawn i ddysgu am fanylion rhaglen. Bryd arall, does gennych chi ddim amser i wneud hynny. Yn y cwrs hwn, mae Jan Kabili’n mynd trwy gyfres o gynghorion cyflym am Photoshop, gyda’r nod o ddatrys problemau a thasgau cyffredin yn gyflym.

213 Photoshop i Olygyddion Fideo: Sgiliau Craidd

Dysgwch am nodweddion Adobe Photoshop sy’n ddefnyddiol i olygyddion fideo. Mae’r hyfforddwr Rich Harrington yn disgrifio cysyniadau delweddu digidol craidd ac yn dangos sut i wneud addasiadau delwedd sylfaenol, megis cywiro dinoethiad a chyferbyniad.

419 Hyfforddiant Hanfodol Photoshop 2023

Pa un a ydych yn weithiwr proffesiynol creadigol profiadol neu’n awyddus i wneud yn fawr o’ch camera newydd, y buddsoddiad gorau y gallwch ei wneud i elwa cymaint â phosibl ar eich picseli yw dysgu sut i ddefnyddio Photoshop 2023 yn effeithlon ac yn effeithiol. Mae Photoshop yn gynnyrch manwl, cymhleth sydd weithiau’n ddigon i […]

079 – Sylfeini’r Cyfryngau Digidol

Mae’r cwrs hwn i unrhyw un sy’n chwilfrydig am y fecaneg tu ôl i’r cyfryngau a welir ar ddyfeisiau. Os ydych yn ddylunydd, ffotograffydd, artist graffeg gyfrifiadurol, cymysgwr sain, golygydd fideo, neu artist graffeg symud sydd wedi’i hyfforddi’i hun, mae gennych ddealltwriaeth dda o’r offer rydych yn eu defnyddio, ac yn gwybod y canlyniadau yr […]