464 Cynghorion Seiberddiogelwch
Ymunwch â’ch Cynghorwyr Sgiliau Digidol am y sesiwn Seiberddiogelwch hon gyda chyngor ynghylch cryfhau’ch amddiffyniad digidol! Byddwn yn cynnig cyngor ar amrywiaeth o bynciau’n cynnwys rheoli cyfrineiriau, cyfathrebu ar-lein, a storio ffeiliau’n ddiogel.
104 – Pum Ffordd o Ddiogelu Eich Meddwl Rhag Ymyriadau
Pam mae hi mor galed osgoi ymyriadau? A sut gallwch chi wella o ran ei wneud? Mae’r fideo hwn gan BBC Ideas â phum awgrym i’ch helpu i ganolbwyntio gan yr awdur Nir Eyal.
309 – Mae’ch Ôl Troed Digidol yn Bwysig
Mae’r cwrs am Olion Traed Digidol yn rhoi dealltwriaeth i chi o’r gwahanol drywyddau rydych yn eu gadael ar y rhyngrwyd a sut gallai hyn effeithio arnoch chi.
307 – Gweithio a Chydweithredu Ar-Lein
Dysgwch sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd a chydweithio ag eraill ar-lein. Mynnwch y sgiliau sydd eu hangen arnoch i chwilio’r we’n ddiogel, defnyddio fideo-sgwrsio ac e-bost, a rhagor.
302 – Diogelwch ar y We: Dilysu Defnyddwyr a Rheoli Mynediad
Dysgwch hanfodion dilysu defnyddwyr, arferion gorau wrth reoli cyfrineiriau a manylion mewngofnodi defnyddwyr, a sut i atal mynediad heb awdurdod at dudalennau gwe a gweithrediadau.
291 – Deall a Blaenoriaethu Preifatrwydd Data
Cewch gyflwyniad i hanfodion preifatrwydd data: beth yw ef, pam mae’n bwysig, ac ar bwy y mae’n effeithio, o ddefnyddwyr a dinasyddion preifat i wneuthurwyr polisi ac arweinwyr busnes uwch.
278 – Technoleg, Moeseg a Diogelwch
Ymchwiliwch i risgiau a pheryglon technoleg, archwilio atebion, a chreu adroddiad i gyfleu eich canfyddiadau.
083 – Strategaeth Ddigidol
Mae’r cwrs hwn yn archwilio sut mae digideiddio yn ail-lunio’r cyfleoedd a’r bygythiadau sy’n wynebu cwmnïau, a sut gallwch fanteisio ar bŵer digideiddio i ennill.
269 – Cymryd Rheolaeth ar Eich Ffôn
Dilynwch y camau hyn i gymryd rheolaeth ar eich defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol a ffurfiau eraill ar dechnoleg.
268 – Bod yn Ofalus Ynghylch Beth Rydych yn ei Rannu Gan Ddefnyddio Rhestr Wirio Share
Wrth ei rhannu, gall gwybodaeth ffug gael ei bywyd ei hun. Nid yw’n hawdd ei gweld bob tro, felly defnyddiwch rhestr wirio SHARE.