491 – Hanfodion Moodle Rhan 2

Datblygu eich sgiliau Moodle. Mae’r sesiwn hon yn eich helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol ar gyfer gwella cynnwys eich cwrs. Dysgwch sut i uwchlwytho fideos gyda Panopto, ychwanegu adnoddau LinkedIn Learning, cynnwys delweddau, defnyddio cyhoeddiadau a fforymau yn effeithiol, ac anfon e-byst swmp trwy Moodle.

490 – Hanfodion Moodle Rhan 1

Dechrau arni gyda hanfodion Moodle. Mae’r sesiwn hon yn dangos i chi sut i drefnu cynnwys a gwybodaeth yn effeithiol yn Moodle. Byddwch yn dysgu awgrymiadau ymarferol megis cadw eich tudalen cwrs yn drefnus, ychwanegu teils a ffeiliau, cuddio cynnwys rhag myfyrwyr, defnyddio rhestrau adnoddau ar-lein a gweld myfyrwyr a grwpiau.

378 Cofrestru cyrsiau ar gyfer Moodle

Bydd y fideo hwn yn dangos i chi sut i ychwanegu myfyrwyr i gofrestriad cwrs o fewn Moodle. Ceir amryw wahanol ffyrdd o gofrestru, a bydd y fideo hwn yn egluro sut i ddefnyddio pob un i weld pa un sy’n berthnasol i chi.

379 Sut i uwchlwytho ffeiliau i Moodle

Mae Moodle yn rhoi ffordd hawdd i staff gyflwyno deunyddiau i fyfyrwyr. Gall y deunyddiau hyn fod ar ffurf ffeiliau megis dogfennau a wnaed ar brosesydd geiriau neu gyflwyniadau sioe sleidiau. Bydd y fideo hwn a’r camau ‘sut i’ yn eich helpu i wybod sut i lanlwytho gwybodaeth yn effeithiol, boed un ffolder neu lawer.

322 Sut i Lanlwytho Bathodyn Moodle i Broffil LinkedIn

Mae arddangos eich bathodynnau digidol yn ffordd wych o ddangos eich doniau ac amlygu eich sgiliau a’ch cyraeddiadau proffesiynol arbennig i’ch cysylltiadau. Mae’r canllaw hwn yn dangos sut y gallwch ychwanegu eich bathodyn digidol Moodle i’ch proffil LinkedIn trwy ddilyn rhai camau syml.

380 Sut i greu cwis ym Moodle

Mae gan Moodle y gallu i fewnbynnu data i greu cwis o fewn tudalen Moodle. Caiff y cwis ei farcio’n fewnol, ac mae’r canlyniadau ar gael yn hawdd i’w hadolygu. Gwyliwch y fideos i weld pa mor gyflym a hawdd y mae i’w osod.