117 Sut i Gadw Lle Astudi

Bellach gallwch gadw lle astudio yn ein llyfrgelloedd yng Nghaerfyrddin, Llambed a’r Fforwm. Mae mannau astudio ar gael i fyfyrwyr astudio ar eu pen eu hunain yn unig, ac nid ydynt yn cynnwys cyfrifiaduron, ardaloedd astudio grŵp na chelfi meddal.

111 Rhoi a Derbyn Adborth

Mae pob gweithiwr proffesiynol yn ceisio gwella beth mae’n ei wneud. Ble bynnag rydych yn gweithio, neu beth bynnag yw’ch rôl, yr unig ffordd o wella yw gydag adborth. Mae rhoi – a derbyn – adborth yn sgil sy’n berthnasol i bob aelod o sefydliad.

107 Gêmeiddio Dysgu

Dysgwch sut gall cynnwys ymdeimlad o chwarae yn eich ystafell ddosbarth neu amgylchedd e-ddysgu wneud eich cynnwys yn fwy diddorol a helpu myfyrwyr i gadw mwy o wybodaeth.

102 Strategaethau Ariannol i Arweinwyr Busnes

Yn y cwrs hwn, mae Jason Schenker yn chwalu’r dirgelwch ynghylch y penderfyniadau strategol y bydd arweinwyr cyllid yn eu gwneud, yn ogystal â’r modd y bydd arweinwyr busnes tu allan i faes cyllid yn gallu cyfrannu at eu llwyddiant. Mae Jason yn disgrifio strategaethau ar gyfer gosod allan gynllun rheoli ariannol i’ch sefydliad.

307 Gweithio a Chydweithredu Ar-Lein

Dysgwch sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd a chydweithio ag eraill ar-lein. Mynnwch y sgiliau sydd eu hangen arnoch i chwilio’r we’n ddiogel, defnyddio fideo-sgwrsio ac e-bost, a rhagor.

339 Defnyddio’r Cynorthwyydd Trefnu gyda Chalendr Outlook Microsoft

Ni ddylai fod angen dwsin o e-byst yn ôl ac ymlaen er mwyn trefnu cyfarfod 30 munud o hyd. Yn hytrach na bod pob un o gyfranogwyr eich cyfarfod yn rhestru eu hargaeledd ar gyfer yr wythnos, defnyddiwch y Cynorthwyydd Trefnu i gael golwg gyffredinol a chyflym ar eich amserlenni.