522 – Offeryn Darganfod Jisc – Cyflogadwyedd i Fyfyrwyr
Mae’r fideo hwn yn dangos sut y gall myfyrwyr gwblhau holiadur Offeryn Darganfod Jisc ar gyfer sgiliau cyflogadwyedd. Mae’n dangos pwysigrwydd sgiliau digidol ar gyfer y gweithle ac yn egluro pa adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr.
495 – Ôl Troed Carbon Digidol
Deall eich ôl-troed carbon digidol. Dysgwch sut y gallai eich arferion digidol effeithio ar yr amgylchedd a chael awgrymiadau syml i helpu i leihau eich ôl troed carbon digidol yn y gweithle ac yn eich bywyd bob dydd.
477 – Dod yn Reolwr Pobl wedi’i Bweru gan AI
Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi fanteisio ar AI cynhyrchiol i reoli’ch tîm yn fwy effeithiol ac effeithlon? Dysgwch sut i ddefnyddio offer AI arloesol i ddod yn fwy llwyddiannus yn eich rôl fel rheolwr – hyd yn oed os nad ydych erioed wedi defnyddio AI cynhyrchiol o’r blaen.
421 – Llunio Portffolio gan ddefnyddio Adobe Portfolio
132 AD a Thrawsnewid Digidol
Dysgwch sut i symud recriwtio ar-lein, gweithredu dysgu a datblygu digidol, manteisio ar offer cynhyrchiant y cwmwl, cael gwared â’r adolygiad perfformiad, a dechrau defnyddio data wrth i chi wneud penderfyniadau. Hefyd, dysgwch sut bydd trawsnewid profiad eich gweithwyr a diwylliant y cwmni yn arwain at arloesi, cynhyrchiant ac ymgysylltiad uwch.
461 Sut i ddefnyddio LinkedIn Learning
Darganfyddwch beth sydd ar gael ar blatfform LinkedIn Learning trwy wylio’r fideo hwn. Fe fydd yn eich tywys o gwmpas y rhyngwyneb ac yn eich pwyntio i’r cyfeiriad iawn wrth chwilio am gyrsiau sy’n cwrdd â’ch anghenion. Dysgwch y gwahaniaeth rhwng llwybr dysgu a chasgliad, gan ymgysylltu hefyd â’r tabiau fydd yn ymddangos wrth wylio […]
099 – Esbonio Dysgu a Datblygiad Digidol
322 Sut i Lanlwytho Bathodyn Moodle i Broffil LinkedIn
Mae arddangos eich bathodynnau digidol yn ffordd wych o ddangos eich doniau ac amlygu eich sgiliau a’ch cyraeddiadau proffesiynol arbennig i’ch cysylltiadau. Mae’r canllaw hwn yn dangos sut y gallwch ychwanegu eich bathodyn digidol Moodle i’ch proffil LinkedIn trwy ddilyn rhai camau syml.
129 Sut i Ddechrau Sgwrsio a Gwneud Galwadau gyda Microsoft Teams
Os hoffech chi siarad yn breifat ag un person neu nifer o bobl yn eich tîm, gallwch chi ddefnyddio’r nodwedd “Sgwrsio” ym Microsoft Teams.
128 Sut i Leihau Gorbryder a Chadw Positifrwydd i Lifo
Dysgwch ddulliau i’ch helpu i reoli gorbryder, meithrin gwytnwch, ac aros yn bositif yn y cwrs hwn a addaswyd o’r podlediad.