421 – Llunio Portffolio gan ddefnyddio Adobe Portfolio
132 AD a Thrawsnewid Digidol
Dysgwch sut i symud recriwtio ar-lein, gweithredu dysgu a datblygu digidol, manteisio ar offer cynhyrchiant y cwmwl, cael gwared â’r adolygiad perfformiad, a dechrau defnyddio data wrth i chi wneud penderfyniadau. Hefyd, dysgwch sut bydd trawsnewid profiad eich gweithwyr a diwylliant y cwmni yn arwain at arloesi, cynhyrchiant ac ymgysylltiad uwch.
461 Sut i ddefnyddio LinkedIn Learning
Darganfyddwch beth sydd ar gael ar blatfform LinkedIn Learning trwy wylio’r fideo hwn. Fe fydd yn eich tywys o gwmpas y rhyngwyneb ac yn eich pwyntio i’r cyfeiriad iawn wrth chwilio am gyrsiau sy’n cwrdd â’ch anghenion. Dysgwch y gwahaniaeth rhwng llwybr dysgu a chasgliad, gan ymgysylltu hefyd â’r tabiau fydd yn ymddangos wrth wylio […]
099 – Esbonio Dysgu a Datblygiad Digidol
322 Sut i Lanlwytho Bathodyn Moodle i Broffil LinkedIn
Mae arddangos eich bathodynnau digidol yn ffordd wych o ddangos eich doniau ac amlygu eich sgiliau a’ch cyraeddiadau proffesiynol arbennig i’ch cysylltiadau. Mae’r canllaw hwn yn dangos sut y gallwch ychwanegu eich bathodyn digidol Moodle i’ch proffil LinkedIn trwy ddilyn rhai camau syml.
129 Sut i Ddechrau Sgwrsio a Gwneud Galwadau gyda Microsoft Teams
Os hoffech chi siarad yn breifat ag un person neu nifer o bobl yn eich tîm, gallwch chi ddefnyddio’r nodwedd “Sgwrsio” ym Microsoft Teams.
128 Sut i Leihau Gorbryder a Chadw Positifrwydd i Lifo
Dysgwch ddulliau i’ch helpu i reoli gorbryder, meithrin gwytnwch, ac aros yn bositif yn y cwrs hwn a addaswyd o’r podlediad.
113 Eich Gwneud Eich Hun yn Atebol
Darganfyddwch sut i’ch rheoli’ch hun yn well drwy fabwysiadu’r meddylfryd atebolrwydd. Dysgwch am gamau penodol, ymarferol y gallwch eu cymryd i weithredu atebolrwydd.
112 Guy Kawasaki ar Sut i Ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol
Mae’r entrepreneur ac arbenigwr ar y cyfryngau cymdeithasol, Guy Kawasaki, â 1.4 miliwn o ddilynwyr ar Twitter a mwy na chwarter miliwn o bobl wedi ei hoffi ar Facebook. Yma mae’n rhannu’i brofiad a’i wybodaeth ynghylch sut i fod yn llwyddiannus ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer brandio personol a phroffesiynol.
309 Mae’ch Ôl Troed Digidol yn Bwysig
Mae’r cwrs am Olion Traed Digidol yn rhoi dealltwriaeth i chi o’r gwahanol drywyddau rydych yn eu gadael ar y rhyngrwyd a sut gallai hyn effeithio arnoch chi.