254 Tueddiadau Marchnata ar y Cyfryngau Cymdeithasol

Mae’r gyfres hon yn rhoi sylw i’r tueddiadau blaenaf y dylech ystyried eu mabwysiadu, yn cynnwys yr esblygiad nesaf o farchnata gan ddylanwadwyr, hysbysebion dynamig, siopa cymdeithasol, a sut dylai brandiau eirioli ynghylch achosion cymdeithasol perthnasol.

246 Sylfeini Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO)

Mae’r cwrs hwn yn ymwneud â meistroli’r pethau sylfaenol hynny. Ymunwch â’r hyfforddwr David Booth wrth iddo gwmpasu sut i wneud gwelliannau sy’n hybu amlygrwydd eich gwefan ar beiriannau chwilio, gan ddenu’r math iawn o draffig i’r tudalennau iawn ar eich gwefan.

242 Llunio’ch Proffil LinkedIn

Dysgwch sut i greu proffil LinkedIn sy’n adrodd eich stori unigryw ac sy’n gallu eich helpu i sefyll allan i ddarpar gyflogwyr.

233 Sylfeini Cysylltiadau Cyhoeddus: Hyfforddiant yn y Cyfryngau

Mae’r arbenigwr Cysylltiadau Cyhoeddus Deirdre Breakenridge yn dynodi rhinweddau llefarydd da ar y cyfryngau, beth i’w ddisgwyl o ryngweithio â newyddiadurwyr, sut i gyfoethogi eich neges gydag ystadegau a dyfyniadau bachog, a sut i addasu eich neges a’r ffordd o’i chyflwyno i sianeli a chynulleidfaoedd penodol ar y cyfryngau.

231 Rhwydweithio Proffesiynol

Does dim rhaid bod yn allblyg i fod yn dda wrth rwydweithio. Dysgwch strategaethau rhwydweithio er mwyn rhwydweithio’n ddilys a chysylltu â phobl rydych chi’n wir yn eu hoffi.

212 Brandio Personol ar y Cyfryngau Cymdeithasol

Yn y cwrs hwn, mae’r hyfforddwr Jennifer Jessie yn dangos sut i wneud hynny, gan esbonio sut i greu proffil sy’n addas i’ch cwsmer delfrydol, llunio cynnwys diddorol, a thargedu eich cynulleidfa ar brif blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol.