LinkedIn Learning



Mynediad at filoedd o gyrsiau

Mae LinkedIn Learning yn is-gwmni i LinkedIn.  Mae fideos di-rif yn cael eu ffrydio gan arbenigwyr yn y diwydiant, sy’n rhad ac am ddim i’w cyrchu unrhyw bryd, ac sy’n darparu deunydd addysgu mewn sgiliau meddalwedd, creadigol a busnes i bob lefel. Does dim angen proffil ar LinkedIn arnoch i gael mynediad i’r cyrsiau a gallwch hefyd ddewis p’un a ydych am gysylltu eich proffil LinkedIn â’ch cyfrif LinkedIn Learning.


Manteision LinkedIn Learning

Meddyliwch am gael cronfa enfawr o adnoddau hygyrch wrth law ar ôl ychydig o gliciau yn unig.  Dyma beth mae LinkedIn Learning yn gallu ei gynnig i chi.  Mae’r cyrsiau hefyd wedi’u llunio i fod ar gyfer unrhyw lefel felly ni ddylech ofni mynd i’r afael â chwrs sy’n gweddu i’ch anghenion chi.  Mae hyn yn wych os ydych yn meddwl am gyflogadwyedd yn y dyfodol a chael y sgiliau hynny yn y gweithle.  Peidiwch ag anghofio hefyd y gallwch ddefnyddio’r llwyfan hwn ble bynnag yr ydych a phryd bynnag yr ydych ar gael, ar unrhyw ddyfais o ddyfais symudol i liniadur.


Sut i gofrestru?

Defnyddiwch eich manylion mewngofnodi i’ch cyfrif prifysgol i gael mynediad at filoedd o adnoddau.  Does dim cyfrif LinkedIn gennych?  Dim problem. Mae’n bosibl o hyd i chi fewngofnodi i LinkedIn Learning!  Wrth gwrs, mae cael cyfrif LinkedIn yn agor y posibilrwydd o ychwanegu a dangos tystysgrifau yn eich proffil LinkedIn, sy’n gallu rhoi hwb i gyflogadwyedd.  Gall cysylltu’r ddau roi bri ychwanegol i chi o ran eich gyrfa yn y dyfodol a datblygiad proffesiynol parhaus.