308 – Gweithio Gyda Chyfrifiaduron a Dyfeisiau
Cewch y sgiliau digidol sydd eu hangen i lwyddo ym myd newydd gwaith. Dysgwch hanfodion gweithio gyda dyfeisiau megis cyfrifiaduron, llechi a ffonau symudol.
526 – CoPilot ar gyfer Cynhyrchiant
Dysgwch yn y sesiwn hon sut i ddefnyddio CoPilot i symleiddio’ch tasgau dyddiol a rhoi hwb i gynhyrchiant. O grynhoi dogfennau / gwefannau i ddrafftio agendâu cyfarfodydd tîm i negeseuon e-bost a phopeth yn y canol. Byddwn ni hefyd yn cyffwrdd yn fyr â’r effaith amgylcheddol a’r defnydd cyfrifol o AI cynhyrchiol.
524 – Manteisio i’r eithaf ar Adnoddau’r Llyfrgell
Dewch i ddysgu am y datblygiadau diweddaraf gyda thîm y Llyfrgell mewn gweithdy sydd wedi’i gynllunio ar gyfer staff academaidd a staff gwasanaethau proffesiynol. Byddwn yn cyflwyno adnoddau digidol newydd, offer a gwasanaethau sy’n cefnogi dysgu, addysgu ac ymchwil ar draws y disgyblaethau. O lwyfannau ar-lein gwell a chronfeydd data pwnc penodol i offer arloesol, […]
523 – Datgloi Pŵer Rhestrau Adnoddau Ar-lein: Gwella Ymgysylltiad a Llwyddiant Academaidd Myfyrwyr
Ymunwch â ni am sesiwn graff sy’n archwilio rôl esblygol Rhestrau Adnoddau Ar-lein (RAA) yn PCYDDS. Byddwn yn ymchwilio i sut mae’r offer deinameg hyn yn cefnogi dysgu cynhwysol, symleiddio mynediad i adnoddau, meithrin ymgysylltu dyfnach â chynnwys academaidd yn ogystal â thrafod esiamplau o arfer gorau. P’un a ydych yn newydd i restrau adnoddau […]
521 – Ychwanegu Llyfr Nodiadau OneNote mewn Microsoft Teams
Dysgwch sut i integreiddio â Teams sy’n galluogi cysoni mewn amser real, cadw popeth mewn un lle ar gyfer holl aelodau’r tîm trwy ddefnyddio adrannau a thudalennau, rheoli cynlluniau ac ar gyfer taflu syniadau
520 – Awgrymiadau Seiberddiogelwch I Staff: Diogelwch Ar-lein
Yn y sesiwn fer hon byddwn yn dangos ychydig o ffyrdd i chi ddiogelu eich hun a’ch data nid yn unig yn y gweithle ond gartref hefyd. Byddwch yn dysgu rhagor am ddiogelu cyfrineiriau, sut i adnabod ymgeisiau gwe-rwydo a bygythiadau ar-lein eraill. Byddwch yn teimo’n barod ac yn hyderus i fynd i’r afael â […]
522 – Offeryn Darganfod Jisc – Cyflogadwyedd i Fyfyrwyr
Mae’r fideo hwn yn dangos sut y gall myfyrwyr gwblhau holiadur Offeryn Darganfod Jisc ar gyfer sgiliau cyflogadwyedd. Mae’n dangos pwysigrwydd sgiliau digidol ar gyfer y gweithle ac yn egluro pa adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr.
519 – Sut y gall staff academaidd ddefnyddio Offeryn Darganfod Jisc gyda’u myfyrwr
Mae’r fideo hwn yn dangos sut y gall staff academaidd ddefnyddio Offeryn Darganfod Jisc gyda’u disgyblion. Mae’n dangos sut y gall myfyrwyr ddatblygu eu gallu trwy gydol y broses ac yn edrych ar nodi bylchau yn eu dysgu i wella’u sgiliau digidol ymhellach.
516 – Sut y gall staff ddefnyddio’r Offeryn Darganfod Jisc
Mae’r fideo hwn yn rhoi cipolwg ar beth yw’r offeryn a sut y gall staff ei ddefnyddio. Mae’n cynnwys amryw o setiau cwestiynau, gyda ffocws ar alluoedd digidol cyffredinol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i gael mynediad at yr offeryn, beth mae’r adroddiad yn ei olygu a sut y gall fod yn berthnasol ar ôl […]
518 – Cyflwyno eich Pôl Vevox yn Microsoft Teams
Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut i ddefnyddio Vevox o fewn Microsoft Teams fel dewis arall yn lle dangosfwrdd Vevox. Mae’n eich tywys drwy ychwanegu Vevox at gyfarfod Teams, cynnal a rheoli arolygon barn, ac yn rhoi trosolwg o’r olygfa gyfranogwyr fel y gallwch ddeall beth fydd eich myfyrwyr yn ei weld.