Darganfyddwch beth sydd ar gael ar blatfform LinkedIn Learning trwy wylio’r fideo hwn. Fe fydd yn eich tywys o gwmpas y rhyngwyneb ac yn eich pwyntio i’r cyfeiriad iawn wrth chwilio am gyrsiau sy’n cwrdd â’ch anghenion. Dysgwch y gwahaniaeth rhwng llwybr dysgu a chasgliad, gan ymgysylltu hefyd â’r tabiau fydd yn ymddangos wrth wylio fideo. Pam na wnewch chi ryngweithio a dysgu rhagor am sut mae LinkedIn Learning yn gweithio a sut y gallwch elwa arno.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r adnodd hwn, cadwch gofnod ohono fel y gallwch wneud cais am fathodyn digidol! Defnyddiwch y fathodynnau hyn i arddangos eich gwybodaeth a’ch sgiliau gyda’ch cydweithwyr neu’ch cyfoedion. Rhannwch nhw ar eich proffil LinkedIn neu ychwanegwch nhw at eich llofnod e-bost!
*Dim ond ar gael i staff a myfyrwyr yw'r rhain.
Mae'r adnodd hwn yn cyfrif tuag at un o bedwar adnodd y bydd angen i chi eu cwblhau i wneud cais am y bathodyn(nau) canlynol.