Bydd y fideo hwn yn dangos i chi sut i ddefnyddio ac addasu templedi yn Canva. Gyda thempledi Canva gallwch ddechrau â thudalen wag, neu ddechrau gydag ysbrydoliaeth un o filoedd o dempledi a ddyluniwyd yn broffesiynol. Cydweithiwch â thîm, neu gweithiwch ar eich pen eich hun ac fe welwch pa mor hawdd yw dod â’ch syniadau’n fyw.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r adnodd hwn, cadwch gofnod ohono fel y gallwch wneud cais am fathodyn digidol! Defnyddiwch y fathodynnau hyn i arddangos eich gwybodaeth a’ch sgiliau gyda’ch cydweithwyr neu’ch cyfoedion. Rhannwch nhw ar eich proffil LinkedIn neu ychwanegwch nhw at eich llofnod e-bost!
*Dim ond ar gael i staff a myfyrwyr yw'r rhain.
Mae'r adnodd hwn yn cyfrif tuag at un o bedwar adnodd y bydd angen i chi eu cwblhau i wneud cais am y bathodyn(nau) canlynol.