Gwneud eich fideos Microsoft Clipchamp yn hygyrch i bawb. Mae'r canllaw hwn yn darparu cyfarwyddiadau cam wrth gam ac arferion gorau ar gyfer creu cynnwys fideo cynhwysol. Dysgwch sut i ddefnyddio capsiynau a thrawsgrifiadau i sicrhau bod gwybodaeth allweddol yn cael ei deall gan bob gwyliwr. Fe welwch hefyd awgrymiadau ar ddylunio fideos gan roi ystyriaeth i hygyrchedd, gan helpu pobl sy'n ddall neu sydd â golwg gwan i ddilyn a mwynhau'ch cynnwys.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r adnodd hwn, cadwch gofnod ohono fel y gallwch wneud cais am fathodyn digidol! Defnyddiwch y fathodynnau hyn i arddangos eich gwybodaeth a’ch sgiliau gyda’ch cydweithwyr neu’ch cyfoedion. Rhannwch nhw ar eich proffil LinkedIn neu ychwanegwch nhw at eich llofnod e-bost!
*Dim ond ar gael i staff a myfyrwyr yw'r rhain.
Mae'r adnodd hwn yn cyfrif tuag at un o bedwar adnodd y bydd angen i chi eu cwblhau i wneud cais am y bathodyn(nau) canlynol.