361 – Sut i feistroli Microsoft Teams ar gyfer Addysgu a Dysgu Ar-lein
Yn y sesiwn hon, byddwn yn amlinellu holl nodweddion gorau Microsoft Teams, a sut y gallwch chi roi hwb i addysgu a dysgu gan ddefnyddio’r platfform.
460 Sut i fewngofnodi i LinkedIn Learning
Cofrestrwch ar gyfer LinkedIn Learning drwy ddilyn y canllaw fideo cam wrth gam hwn sy’n mynd â chi drwy’r broses ac yn dynodi’r gwahaniaeth rhwng llwybr dysgu a chasgliad.
121 – Sut i Fewngofnodi i Outlook 365 i Staff a Myfyrwyr
Canllaw i staff a myfyrwyr y Drindod Dewi Sant ar sut i gael mynediad i Microsoft Outlook.
448 Sut i osod apiau Microsoft 365
Canllaw gan Microsoft ar sut i osod eu apiau ar beiriannau.
390 – Sut i gael help a dysgu rhagor o sgiliau dylunio yn Canva
Mae fideo olaf ein cyfres Canva i Ddechreuwyr yn dangos i chi sut i ganfod cymorth o fewn Canva, ble i ddysgu rhagor o sgiliau dylunio, ac i ble y gall eich taith ddylunio fynd nesaf.
386 – Sut i ddod o hyd i ffontiau a fformatio testun yn Canva
Dyma sut i ychwanegu testun, canfod ffontiau, ynghyd â fformatio ac arddullio eich testun yn Canva. Byddwn yn dangos yr hanfodion i chi, a rhai effeithiau hwyliog i wneud eich testun yn atyniadol a deniadol i unrhyw ddarllenydd.
120 – Sut i Ddylunio a Chyflwyno Rhaglenni Hyfforddi
Darganfyddwch sut i ddylunio a chyflwyno rhaglenni hyfforddi sy’n ennyn diddordeb dysgwyr ac yn eu helpu i ddatblygu sgiliau newydd yn gyflym.
118 – Sut i Greu Rhestr Adnoddau Ar-Lein
Canllaw fideo i staff academaidd y Drindod Dewi Sant ynghylch sut i greu rhestr adnoddau ar-lein, gan ddefnyddio’r platfform Rhestrau Adnoddau Ar-lein newydd.
380 – Sut i greu cwis ym Moodle
Mae gan Moodle y gallu i fewnbynnu data i greu cwis o fewn tudalen Moodle. Caiff y cwis ei farcio’n fewnol, ac mae’r canlyniadau ar gael yn hawdd i’w hadolygu. Gwyliwch y fideos i weld pa mor gyflym a hawdd y mae i’w osod.
407 Sut i Gynyddu eich Cynhyrchiant gydag Offer AI
Ymunwch â Dave Birss, arloeswr ac arbenigwr ar ddeallusrwydd artiffisial (DA), wrth iddo arddangos yn ymarferol sut i gydweithio ag adnoddau DA yn y ffordd orau. Mae’n rhannu fframwaith i’ch helpu i ddeall sut y gallwch ymgorffori DA i’ch tasgau bob dydd. Mae hefyd yn rhannu nifer o awgrymiadau defnyddiol a all symleiddio tasgau a’ch […]