115 – Sut Gaf i Fynediad i Adobe Creative Cloud?
Cewch fynediad i ystod o feddalwedd greu ddigidol yn rhad ac am ddim fel aelod o staff yn y Drindod Dewi Sant. Ymhlith pethau eraill cewch fynediad i offer golygu delweddau a fideo. Mae rhai myfyrwyr hefyd yn gymwys i gael mynediad iddi yn ddibynnol ar eu cwrs.
114 – Sut Bydd Cadwyni Bloc yn Newid Busnes
Mae cadwyni bloc ar fin tarfu ar ddiwydiannau hirsefydlog a dryllio modelau busnes confensiynol. Hyfforddwch eich ymennydd i weld cyfleoedd a heriau’r don nesaf hon o newid digidol.
113 – Eich Gwneud Eich Hun yn Atebol
Darganfyddwch sut i’ch rheoli’ch hun yn well drwy fabwysiadu’r meddylfryd atebolrwydd. Dysgwch am gamau penodol, ymarferol y gallwch eu cymryd i weithredu atebolrwydd.
112 – Guy Kawasaki ar Sut i Ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol
Mae’r entrepreneur ac arbenigwr ar y cyfryngau cymdeithasol, Guy Kawasaki, â 1.4 miliwn o ddilynwyr ar Twitter a mwy na chwarter miliwn o bobl wedi ei hoffi ar Facebook. Yma mae’n rhannu’i brofiad a’i wybodaeth ynghylch sut i fod yn llwyddiannus ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer brandio personol a phroffesiynol.
111 – Rhoi a Derbyn Adborth
Mae pob gweithiwr proffesiynol yn ceisio gwella beth mae’n ei wneud. Ble bynnag rydych yn gweithio, neu beth bynnag yw’ch rôl, yr unig ffordd o wella yw gydag adborth. Mae rhoi – a derbyn – adborth yn sgil sy’n berthnasol i bob aelod o sefydliad.
318 – Dechrau arni gyda’ch Mac
Mae’r canllaw hwn yn manylu sut i ddechrau arni gyda’ch Mac. Dewiswch y fersiwn gywir i gael cymorth a chefnogaeth benodol.
346 – Dechrau Arni gyda Sway
Newydd i Microsoft Sway? Mae’r erthygl hon yn rhoi trosolwg o ba mor hawdd yw hi i greu a rhannu unrhyw beth gyda chynfas lliwgar a rhyngweithiol Sway. Dysgwch sut i greu eich Sway cyntaf, sut i ychwanegu ac ymgorffori cynnwys, a sut i rannu eich creadigaeth orffenedig ag eraill.
433 Cychwyn gyda Premiere Pro ar gyfer y dibrofiad ym maes fideo
Ydych chi’n cael eich hun mewn sefyllfa lle mae angen i chi olygu fideo ond nid ydych yn gwybod ble mae dechrau? Os ydych chi’n defnyddio Adobe Creative Cloud, mae gennych fynediad at gymhwysiad gwych – Adobe Premiere Pro – ond mae’n gallu bod yn anodd iawn i’w ddysgu ar eich pen eich hun. Gall […]
110 – Cychwyn Arni Gyda PowerPoint Online
Gyda PowerPoint i’r we, gallwch greu cyflwyniadau yn eich porwr. Crëwch a chadw eich cyflwyniadau yn eich OneDrive, a’u golygu a rhannu ar-lein.
109 – Cychwyn Arni Gyda Rhestrau Adnoddau Ar-Lein
Canllaw fideo i staff academaidd y Drindod Dewi Sant ynghylch sut i ddefnyddio’r platfform Rhestrau Adnoddau Ar-lein newydd.