220 – Preifatrwydd Drwy Ddylunio: Rhannu Data
Yn y cwrs hwn, rhan olaf y gyfres Preifatrwydd, mae Nishant Bhajaria yn mynd dros y technegau amrywiol gallwch eu defnyddio i helpu i gryfhau preifatrwydd data cyn eu rhannu.
341 – Canllawiau Argraffu, Copïo a Sganio
Mae’r gwasanaethau hyn ar gael i fyfyrwyr a staff ar draws holl ganolfannau adnoddau dysgu’r Brifysgol yn ogystal ag ystafelloedd cyfrifiaduron penodol. Mae PCYDDS yn defnyddio dyfeisiau aml-swyddogaeth (MFDs) sydd â swyddogaethau argraffu, copïo a sganio ar gael mewn lliw llawn neu mewn du a gwyn.
219 – Cynhyrchu Print: Argraffu Digidol a Data Newidiol
Yn y cwrs hwn mae Claudia McCue yn adolygu’r mathau o brosiectau sy’n briodol ar gyfer argraffu digidol, effaith lliw digidol, a sut gall data newidiol ganiatáu i chi roi gwedd bersonol ar eich gwaith argraffu digidol.
218 – Cyflwyno Gwybodaeth Dechnegol Gyda Straeon
Gwnewch ddeunydd cymhleth yn fwy cofiadwy a diddorol. Dysgwch sut i ddefnyddio dweud stori i drawsnewid anerchiadau technegol yn gyflwyniadau dynamig ac egnïol.
432 Cynghorion Cyflym Premiere Pro
Dysgwch dechnegau newydd i wella cyflymder ac effeithlonrwydd wrth olygu a chyflawni gweithredoedd bob dydd ym mhaneli cymhwyso Adobe Premiere Pro. Mae’r hyfforddwr Christine Steele yn ymdrin â phynciau megis technegau golygu paneli Source, Program a Timeline, effeithiau wedi’u symleiddio a sgiliau gorffen, a llifoedd gwaith amgen a llwybrau byr sy’n lleihau gweithredoedd ailadroddus.
096 – Excel: Fformiwlâu a Ffwythiannau Uwch
434 Hyfforddiant Hanfodol Premiere Pro 2022–2024
Mae fideo’n ffurf gelf bersonol, bwerus a dynamig. Er mwyn trawsnewid deunydd crai yn straeon dylanwadol, mae gwneuthurwyr a golygyddion ffilm yn troi at Adobe Premiere Pro, y cymhwysiad sy’n arwain y diwydiant. Mae’r cwrs hwn yn helpu dechreuwyr i ddatgloi potensial yr argraffiad diweddaraf, Premiere Pro 2022.
217 – Dadansoddeg Ragfynegol a Chloddio Data: Elfennau Hanfodol
Dysgwch hanfodion cloddio data a dadansoddeg ragfynegol. Archwiliwch brosiect o’r byd go iawn, o ddiffinio’r broblem i roi’r ateb ar waith.
095 – Popeth yn Wasanaeth (XaaS) Yw Dyfodol Busnes
Dysgwch sut mae popeth yn wasanaeth (XaaS) yn trawsnewid busnesau ac yn eu galluogi i gystadlu mewn marchnad fyd-eang sy’n datblygu’n gyflym.
094 – Sefydlu Rhaglen Lesiant yn Eich Sefydliad
Dysgwch sut i ddiffinio beth mae llesiant yn ei olygu i’ch sefydliad, gosodwch amcanion i gyflawni hynny, a dynodi’r saith ffactor sy’n effeithio ar lesiant, o iechyd seicolegol ac ariannol i gyfleoedd am dwf personol.