Ysgrifennwch destun amgen (alt text) effeithiol i wneud delweddau yn hygyrch. Heb destun disgrifiadol, efallai y bydd pobl ag anableddau golwg yn colli gwybodaeth bwysig yn eich cynnwys. Mae testun amgen (alt text) yn helpu trwy gyfleu ystyr a chyd-destun delweddau ac elfennau gweledol eraill. Mae darllenwyr sgrin fel Microsoft Narrator, JAWS a NVDA yn darllen testun amgen (alt text) yn uchel, gan wella dealltwriaeth a phrofiad y defnyddiwr. Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut i ysgrifennu a defnyddio testun amgen (alt text) ystyrlon ar draws cynnyrch Microsoft 365.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r adnodd hwn, cadwch gofnod ohono fel y gallwch wneud cais am fathodyn digidol! Defnyddiwch y fathodynnau hyn i arddangos eich gwybodaeth a’ch sgiliau gyda’ch cydweithwyr neu’ch cyfoedion. Rhannwch nhw ar eich proffil LinkedIn neu ychwanegwch nhw at eich llofnod e-bost!
*Dim ond ar gael i staff a myfyrwyr yw'r rhain.
Mae'r adnodd hwn yn cyfrif tuag at un o bedwar adnodd y bydd angen i chi eu cwblhau i wneud cais am y bathodyn(nau) canlynol.