Ychwanegu a golygu capsiynau mewn fideos Panopto. Gall crewyr ddefnyddio technoleg Adnabod Lleferydd Awtomatig (ASR) i gynhyrchu capsiynau ar gyfer eu fideos Panopto. Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut i ychwanegu a golygu capsiynau ASR i wella hygyrchedd. Gan y gall capsiynau a gynhyrchir gan beiriant gynnwys gwallau, argymhellir eu hadolygu a'u cywiro. Os yw ASR aml-iaith wedi ei alluogi, dim ond yn iaith ragosodedig y safle neu'r ffolder y gellir ychwanegu capsiynau.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r adnodd hwn, cadwch gofnod ohono fel y gallwch wneud cais am fathodyn digidol! Defnyddiwch y fathodynnau hyn i arddangos eich gwybodaeth a’ch sgiliau gyda’ch cydweithwyr neu’ch cyfoedion. Rhannwch nhw ar eich proffil LinkedIn neu ychwanegwch nhw at eich llofnod e-bost!
*Dim ond ar gael i staff a myfyrwyr yw'r rhain.
Mae'r adnodd hwn yn cyfrif tuag at un o bedwar adnodd y bydd angen i chi eu cwblhau i wneud cais am y bathodyn(nau) canlynol.