489 – Rhowch gychwyn arni gyda ar OneNote
Mynnwch reolaeth dros eich prosiect nesaf. Beth am fod yn drefnus a chydweithio gyda Microsoft OneNote? Rhoddwn help i chi gychwyn arni gan rannu cyngor i’ch galluogi i gyflawni eich nodau i gyd mewn un platfform.
488 – Creu Cyflwyniadau PowerPoint Hygyrch
Darganfyddwch sut i greu cyflwyniadau PowerPoint y gall pawb eu mwynhau. Bydd y sesiwn hon yn ymdrin ag arferion gorau ar gyfer hygyrchedd ac yn cynnwys arddangosiad byw o’r nodwedd gwirio hygyrchedd o fewn PowerPoint. Byddwch hefyd yn dysgu awgrymiadau ac offer ymarferol i sicrhau bod eich cyflwyniadau yn gynhwysol i bawb.
487 – Offeryn AI Jisc a Chydymaith
Dewch o hyd i’ch lle yn y byd AI newydd gyda’r offeryn Jisc AI, adeiladwch eich adroddiad a dysgwch sut y gall Copilot helpu yn eich gweithle chi.
486 – Bwrdd Gwyn Ar-lein yn Teams
Ymgysylltwch â’ch cynulleidfa gyda Microsoft Whiteboard yn Teams. Dysgwch am fuddion integreiddio byrddau gwyn a sut gall hyn effeithio ar eich myfyrwyr. Daliwch sylw eich dysgwyr drwy annog cydweithio, gan greu gweithgareddau hwyliog a fydd yn hoff bethau eu cyd-fyfyrwyr.
484 – Cyngor Seiberddiogelwch i Staff – Gweithio gyda Meddalwedd a Data
Mae’r fideo hwn yn ymdrin â sut i ddiogelu’ch dyfeisiau yn gorfforol, rheoli diweddariadau, ac aros yn ddiogel wrth weithio o bell. Rydym yn edrych ar ffyrdd ymarferol o gadw’ch offer yn ddiogel.
482 – Awgrymiadau Seiberddiogelwch i Staff
Byddwch yn dysgu strategaethau effeithiol ar gyfer creu a rheoli cyfrineiriau diogel. Mae’r fideo hwn yn ymdrin â hanfodion creu cyfrinair cryf, manteision defnyddio rheolwyr cyfrineiriau, a sut i weithredu dilysu aml-ffactor. Byddwch yn ennill sgiliau i amddiffyn eich cyfrifon personol a chyfrifon sy’n gysylltiedig â gwaith yn well rhag mynediad anawdurdodedig.
480 – Cyngor Seiberddiogelwch i Staff – Diogelwch Ar-lein
Dysgu sut i adnabod ac osgoi sgamiau ar-lein cyffredin. Mae’r sesiwn hon ar gyfer staff yn cwmpasu rhai o’r tactegau y mae sgamwyr yn eu defnyddio i dargedu cyfrifon personol a phroffesiynol. Trafodir sut i adnabod ymdrechion gwe-rwydo, triciau peirianneg gymdeithasol, a bygythiadau ar-lein eraill. Byddwch yn ennill sgiliau i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a’ch […]
360 – Cychwyn arni gyda Microsoft Office Specialist (MOS)
Mae Arbenigwr Microsoft Office (AMO) yn achrediad a gydnabyddir gan ddiwydiant ac sy’n dilysu cymhwysedd mewn rhaglenni meddalwedd Microsoft megis Word, Excel, Outlook a PowerPoint. P’un a ydych ond eisiau dysgu rhagor am sut i ddefnyddio un o’r cynhyrchion hyn neu am ennill tystysgrif a phasio arholiad, gallwn eich helpu.
374 – Cychwyn arni gyda Microsoft Certified Educator (MCE)
Mae rhaglen Addysgwr Ardystiedig Microsoft (Microsoft Certified Educator) yn rhaglen datblygu proffesiynol sy’n pontio’r bwlch rhwng sgiliau technoleg ac addysgu arloesol. Bydd yr ardystiad yn cadarnhau bod gennych y cymwyseddau llythrennedd technoleg i addysgwyr byd-eang sydd eu hangen i ddarparu profiad dysgu cyfoethog, personol ar gyfer y defnyddiwr.
462 Sgiliau Digidol : Sut Rydym yn Cefnogi Staff a Myfyrwyr
Ymunwch â ni i gael trosolwg o’r cymorth sydd ar gael i staff a myfyrwyr oddi wrth y Tîm Sgiliau Digidol.