485 – Cyngor Seiberddiogelwch i Fyfyrwyr – Gweithio gyda Meddalwedd a Data
Mae’r fideo hwn yn dangos i chi sut i ddiogelu eich ffôn clyfar, eich gliniadur, a thechnoleg arall rhag risgiau diogelwch, heb dorri’r banc.
484 – Cyngor Seiberddiogelwch i Staff – Gweithio gyda Meddalwedd a Data
Mae’r fideo hwn yn ymdrin â sut i ddiogelu’ch dyfeisiau yn gorfforol, rheoli diweddariadau, ac aros yn ddiogel wrth weithio o bell. Rydym yn edrych ar ffyrdd ymarferol o gadw’ch offer yn ddiogel.
483 – Awgrymiadau Seiberddiogelwch i Fyfyrwyr
Gwella eich arferion o ran cyfrineiriau i gadw’ch cyfrifon yn ddiogel. Rydym yn trafod sut i greu cyfrineiriau cryf, cofiadwy ac archwilio offer fel rheolwyr cyfrineiriau. Dysgwch am ddilysu aml-ffactor a pham ei bod yn bwysig ar gyfer diogelu eich cyfrifon prifysgol, gwybodaeth bersonol, a phresenoldeb ar-lein.
482 – Awgrymiadau Seiberddiogelwch i Staff
Byddwch yn dysgu strategaethau effeithiol ar gyfer creu a rheoli cyfrineiriau diogel. Mae’r fideo hwn yn ymdrin â hanfodion creu cyfrinair cryf, manteision defnyddio rheolwyr cyfrineiriau, a sut i weithredu dilysu aml-ffactor. Byddwch yn ennill sgiliau i amddiffyn eich cyfrifon personol a chyfrifon sy’n gysylltiedig â gwaith yn well rhag mynediad anawdurdodedig.
481 – Awgrymiadau Seiberddiogelwch i Fyfyrwyr – Diogelwch Ar-lein
Darganfyddwch sut i weld ac osgoi sgamiau ar-lein sy’n aml yn targedu llawer o oedolion. Rydym yn ymdrin â sgamiau cyffredin a geir mewn e-byst, cyfryngau cymdeithasol, a gwefannau. Dysgwch sut i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a’ch cyllid rhag ymdrechion gwe-rwydo a thriciau ar-lein eraill. Bydd y fideo hwn yn eich helpu i lywio’r rhyngrwyd […]
480 – Cyngor Seiberddiogelwch i Staff – Diogelwch Ar-lein
Dysgu sut i adnabod ac osgoi sgamiau ar-lein cyffredin. Mae’r sesiwn hon ar gyfer staff yn cwmpasu rhai o’r tactegau y mae sgamwyr yn eu defnyddio i dargedu cyfrifon personol a phroffesiynol. Trafodir sut i adnabod ymdrechion gwe-rwydo, triciau peirianneg gymdeithasol, a bygythiadau ar-lein eraill. Byddwch yn ennill sgiliau i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a’ch […]
464 Cynghorion Seiberddiogelwch
Ymunwch â’ch Cynghorwyr Sgiliau Digidol am y sesiwn Seiberddiogelwch hon gyda chyngor ynghylch cryfhau’ch amddiffyniad digidol! Byddwn yn cynnig cyngor ar amrywiaeth o bynciau’n cynnwys rheoli cyfrineiriau, cyfathrebu ar-lein, a storio ffeiliau’n ddiogel.
061 – Sylfeini Seiberddiogelwch
Gosodwch sylfaen gadarn ar gyfer eich rhwydwaith, defnyddwyr, a data drwy ddysgu hanfodion seiberddiogelwch. Archwiliwch fframweithiau allweddol, bygythiadau, a strategaethau ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau.
452 Cwrs Cyflwyniad i Seiberddiogelwch
Mae PCYDDS yn cynnig y cwrs rhad ac am ddim hwn i bob myfyriwr / myfyrwraig ac aelod staff fel rhan o’r Mis Ymwybyddiaeth Seiberddiogelwch. Fe’ch gwahoddir i gymryd rhan, dysgu ffyrdd syml i gadw’n ddiogel a bod yn ymwybodol o beryglon ar y we.
142 Mewnwelediad Gan Weithiwr Proffesiynol ym Maes Seiberddiogelwch
 diddordeb mewn gyrfa ym maes diogelwch TG? Cewch fewnwelediad gan arbenigwr. Rydym yn cyfweld Mike Chapple am lwybr gyrfa y gweithiwr proffesiynol seiberddiogelwch.