027 – Adeiladu Cymuned Greadigol Ar-lein
Dysgwch sut i greu a meithrin cymuned ar-lein ymgysylltiol i gyfoethogi’ch busnes creadigol.
417 Cyflwyniad i Ddylunio Graffig: Photoshop
Mae dylunio’n gelfyddyd gymhleth sy’n gofyn am nifer o sgiliau ac offer gwahanol. Yn y cwrs hwn, mae’r hyfforddwr Tony Harmer yn ymdrin â rhai sgiliau craidd yn Photoshop y mae angen i bob dylunydd eu gwybod. Mae Tony’n dangos sut i docio delwedd, gwneud grid rheol traeanau a dileu cefndir.
145 Cyflwyniad i Ddylunio Graffig: InDesign
Mae’r gyfres Cyflwyniad i Ddylunio Graffig yn cwmpasu’r cysyniadau a’r feddalwedd y mae angen i bob dylunydd fod yn gyfarwydd â nhw ac mae’n esbonio sut maent yn ffitio i mewn i lif gwaith dylunio graffig nodweddiadol.
422 Cyflwyniad i Ddylunio Graffig: Illustrator
Mae dylunio’n gelfyddyd gymhleth sy’n gofyn am nifer o sgiliau ac offer gwahanol. Yn y cwrs hwn, mae’r hyfforddwr Tony Harmer yn defnyddio’r broses o greu poster i addysgu sgiliau craidd Adobe Illustrator i chi y mae angen i bob dylunydd eu gwybod. Mae Tony’n dangos sut i osod y ddogfen a’r gofod gweithio ar […]
143 Dylunio Addysgol: Creu Hyfforddiant ar Fideo
Dysgwch yr awgrymiadau, y triciau a’r technegau addysgu i greu hyfforddiant llwyddiannus a diddorol ar fideo.
011 – Hysbysebu ar YouTube
Tynnwch sylw – a chwsmeriaid – drwy hysbysebu ar YouTube. Mae’r arbenigwr marchnata Anson Alexander yn dangos i chi sut i greu a rheoli ymgyrchoedd hysbysebu ar YouTube, platfform fideo mwyaf y byd.
010 – Hysbysebu Facebook Uwch
Os ydych chi mewn marchnata, yr unig beth sy’n waeth na pheidio â chael strategaeth farchnata cyfryngau cymdeithasol yw cael un gwael. Os ydych chi am ddefnyddio fideo ffurf fer fel TikTok ac Instagram Reels (o Meta) i hybu ymwybyddiaeth brand ac ymgysylltiad cynulleidfa, mae’r cwrs hwn yn dangos i chi sut i ddefnyddio’r llwyfannau […]
009 – Hysbysebu ar Facebook
Dysgwch sut i greu a rheoli ymgyrchoedd hysbysebu ar Facebook sy’n helpu’ch busnes i dyfu ac yn hybu’ch brand.
415 Canllawiau Cyflym InDesign 2023
Hoffech chi ddysgu sut i ddefnyddio Adobe InDesign ond nid oes gennych lawer o amser i’w sbario? Does dim angen edrych ymhellach na chwrs dynamig a chyflym Kladi. Yn y gyfres hon o wersi cryno a llawn gwybodaeth, mae Kladi’n ymdrin â’r hanfodion sylfaenol o sut i ddefnyddio InDesign.
416 Hyfforddiant Hanfodol InDesign 2023
Mae InDesign yn offeryn hanfodol ar gyfer cwmnïau dylunio, asiantaethau hysbysebu, cylchgronau, papurau newydd, cyhoeddwyr llyfrau, a dylunwyr llawrydd ledled y byd. Yn y cwrs hwn, mae’r arbenigwr ar InDesign, David Blatner, yn cyflwyno esboniad manwl o’r nodweddion a’r technegau craidd sy’n gwneud y cymhwysiad gosod tudalen pwerus hwn yn hwyl ac yn hawdd i’w […]