332 Dechrau Cyfrif Microsoft i’w ddefnyddio gyda Microsoft Teams

Er mwyn ymuno â chyfarfod Teams yn y Drindod Dewi Sant bydd angen i chi gael cyfrif Teams. Os nad oes gan eich sefydliad danysgrifiad Microsoft Office 365 sy’n cynnwys Microsoft Teams, gallwch ddechrau cyfrif gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost gwaith neu bersonol.

333 Creu Cyfarfod Sianel yn Microsoft Teams

Microsoft Teams bellach yw’r dull arferol o gynnal cyfarfodydd grŵp ar-lein yn y Brifysgol, a hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynnal gweminarau hyfforddi a rhai dosbarthiadau ar-lein. Mae’r canllaw hwn yn dangos i chi sut i greu cyfarfod Microsoft Teams mewn sianel.

229 Awgrymiadau Cynhyrchiant: Defnyddio Technoleg

Yn y rhifyn hwn o’r gyfres Awgrymiadau Cynhyrchiant, mae’r awdur a siaradwr ar arweinyddiaeth gynhyrchiol, Dave Crenshaw, yn eich helpu i fod yn gyfforddus gyda thechnoleg ac yn esbonio sut i fanteisio ar offer a nodweddion penodol i wneud yn fawr o’ch diwrnod gwaith.

221 Awgrymiadau ar gyfer Defnyddio Sway

Eisiau creu ffeil Sway sydd hyd yn oed yn fwy llawn o nodweddion? Mae’r fideo hwn yn archwilio’r gwahanol ffyrdd y gallwch reoli sut mae delweddau’n cael eu harddangos yn cynnwys sioeau sleidiau, staciau, cymharu, a phwyntiau ffocws.

219 Cynhyrchu Print: Argraffu Digidol a Data Newidiol

Yn y cwrs hwn mae Claudia McCue yn adolygu’r mathau o brosiectau sy’n briodol ar gyfer argraffu digidol, effaith lliw digidol, a sut gall data newidiol ganiatáu i chi roi gwedd bersonol ar eich gwaith argraffu digidol.