277 Teams for Education – Rhestr Chwarae YouTube

Mae Microsoft Teams yn hwb digidol sy’n dod â sgyrsiau, cynnwys ac apiau at ei gilydd yn yr un lle. Gall addysgwyr greu dosbarthiadau cydweithredol, cysylltu mewn Cymunedau Dysgu Proffesiynol, a chyfathrebu â staff ysgol, i gyd o brofiad sengl yn Office 365 ar gyfer Addysg. Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r camau angenrheidiol i […]

335 Sefydlu Gweminar yn Microsoft Teams

Microsoft Teams bellach yw’r dull diofyn ar gyfer cynnal cyfarfodydd grŵp ar-lein yn PCYDDS, a bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynnal gweminarau hyfforddi a rhai dosbarthiadau ar-lein. Mae’r canllaw hwn yn dangos i chi sut i sefydlu Gweminar yn Microsoft Teams.

332 Dechrau Cyfrif Microsoft i’w ddefnyddio gyda Microsoft Teams

Er mwyn ymuno â chyfarfod Teams yn y Drindod Dewi Sant bydd angen i chi gael cyfrif Teams. Os nad oes gan eich sefydliad danysgrifiad Microsoft Office 365 sy’n cynnwys Microsoft Teams, gallwch ddechrau cyfrif gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost gwaith neu bersonol.

333 Creu Cyfarfod Sianel yn Microsoft Teams

Microsoft Teams bellach yw’r dull arferol o gynnal cyfarfodydd grŵp ar-lein yn y Brifysgol, a hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynnal gweminarau hyfforddi a rhai dosbarthiadau ar-lein. Mae’r canllaw hwn yn dangos i chi sut i greu cyfarfod Microsoft Teams mewn sianel.