325 – Gwahodd Gwestai i Gyfarfod Microsoft Teams

Wrth ddefnyddio Microsoft Teams ar gyfer cyfarfodydd ar-lein, efallai yr hoffech wahodd rhywun i’r cyfarfod nad yw’n rhan o’r Drindod Dewi Sant neu nad oes ganddo/ganddi gyfeiriad e-bost yn y Drindod Dewi Sant. Gallwch ei (g)wahodd fel gwestai. Mae’r canllaw hwn yn dangos i chi sut i wahodd gwestai i gyfarfod Microsoft Teams.

011 – Hysbysebu ar YouTube

Tynnwch sylw – a chwsmeriaid – drwy hysbysebu ar YouTube. Mae’r arbenigwr marchnata Anson Alexander yn dangos i chi sut i greu a rheoli ymgyrchoedd hysbysebu ar YouTube, platfform fideo mwyaf y byd.

010 – Hysbysebu Facebook Uwch

Os ydych chi mewn marchnata, yr unig beth sy’n waeth na pheidio â chael strategaeth farchnata cyfryngau cymdeithasol yw cael un gwael. Os ydych chi am ddefnyddio fideo ffurf fer fel TikTok ac Instagram Reels (o Meta) i hybu ymwybyddiaeth brand ac ymgysylltiad cynulleidfa, mae’r cwrs hwn yn dangos i chi sut i ddefnyddio’r llwyfannau […]

009 – Hysbysebu ar Facebook

Dysgwch sut i greu a rheoli ymgyrchoedd hysbysebu ar Facebook sy’n helpu’ch busnes i dyfu ac yn hybu’ch brand.

137 – Dylunio Dysgu Cynhwysol

Dysgwch sut i ddylunio profiadau dysgu cynhwysol mewn ffordd feddylgar, profiadau sy’n adlewyrchu ac yn cydweddu â’ch holl gynulleidfa.