488 – Creu Cyflwyniadau PowerPoint Hygyrch

Darganfyddwch sut i greu cyflwyniadau PowerPoint y gall pawb eu mwynhau. Bydd y sesiwn hon yn ymdrin ag arferion gorau ar gyfer hygyrchedd ac yn cynnwys arddangosiad byw o’r nodwedd gwirio hygyrchedd o fewn PowerPoint. Byddwch hefyd yn dysgu awgrymiadau ac offer ymarferol i sicrhau bod eich cyflwyniadau yn gynhwysol i bawb.

435 Creu PDFs Hygyrch

Mae hygyrchedd yn golygu gwneud yn siŵr bod eich cynnwys ar gael i gynifer o bobl â phosibl. Pan fyddwch chi’n gwneud eich PDFs yn hygyrch, mae’n golygu ychwanegu tagiau, nodau tudalen, testun amgen, a gwybodaeth arall sy’n gwneud y ffeiliau’n ddarllenadwy i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol. Mae bellach lawer yn haws i ddefnyddio Microsoft Word […]

446 Creu a dilysu hygyrchedd PDF (Acrobat Pro)

Mae offer Acrobat yn ei wneud yn hawdd i greu dogfennau PDF hygyrch a gwirio hygyrchedd dogfennau PDF presennol. Gallwch greu PDF i fodloni safonau hygyrchedd cyffredin, fel Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG0 2.0 a PDF/UA (‘Universal Access’, neu ISO 14289).

107 – Gêmeiddio Dysgu

Dysgwch sut gall cynnwys ymdeimlad o chwarae yn eich ystafell ddosbarth neu amgylchedd e-ddysgu wneud eich cynnwys yn fwy diddorol a helpu myfyrwyr i gadw mwy o wybodaeth.

105 – Dilyn yr Edefyn Digidol

Mae’r “edefyn digidol” yn ddull gweithgynhyrchu chwyldroadol ac mae’n symud prosesau dylunio, gweithgynhyrchu a phrofi darnau diwydiannol a pheiriannau’n gyfan gwbl i’r maes digidol.

227 Awgrymiadau Cynhyrchiant: Gosod Eich Man Gwaith

Yn y rhifyn hwn o’r gyfres Awgrymiadau Cynhyrchiant, mae’r awdur a siaradwr ar arweinyddiaeth gynhyrchiol, Dave Crenshaw, yn esbonio sut i hybu eich cynhyrchiant drwy feithrin man gwaith personol sy’n ei gwneud yn haws cadw cymhelliant a chadw at y dasg.

219 Cynhyrchu Print: Argraffu Digidol a Data Newidiol

Yn y cwrs hwn mae Claudia McCue yn adolygu’r mathau o brosiectau sy’n briodol ar gyfer argraffu digidol, effaith lliw digidol, a sut gall data newidiol ganiatáu i chi roi gwedd bersonol ar eich gwaith argraffu digidol.