287 Ffynnu yn y Gwaith: Manteisio ar y Cysylltiad Rhwng Llesiant a Chynhyrchiant
Parhewch ar eich taith i Ffynnu. Mae Arianna Huffington a Joey Hubbard yn trafod sut gall llesiant gyfrannu at eich cynhyrchiant a’ch llwyddiant yn y gwaith.
283 Y Diwrnod Gwaith Meddylgar – Cyflwyniad
Dewch â’r gorau ohonoch chi i’r gwaith. Ymunwch â Dr. Britt Andreatta yn y Diwrnod Gwaith Meddylgar, cyfres o ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar i’ch cadw’n gysylltiedig, â’ch traed ar y ddaear, ac â ffocws yn y gwaith.
282 Dyfodol Dysgu yn y Gweithle
Ni fydd technoleg yn trawsnewid eich sefydliad dysgu ar ei phen ei hun. Dysgwch i adeiladu achos busnes ar gyfer dyfodol dysgu yn y gweithle yn eich cwmni.
281 Trawsnewid Dysgu’n Ddigidol
Dysgwch sut i fodloni anghenion dysgu gweithwyr drwy ddigideiddio eich adnoddau presennol a gweithredu atebion hyfforddi digidol.
278 Technoleg, Moeseg a Diogelwch
Ymchwiliwch i risgiau a pheryglon technoleg, archwilio atebion, a chreu adroddiad i gyfleu eich canfyddiadau.
271 Cymryd Cyfrifoldeb am Eich Datblygiad
Cyn i chi allu arwain pobl eraill yn effeithiol, mae angen i chi eich arwain eich hun. Yn y cwrs hwn, dysgwch sut i reoli eich meddylfryd, eich ymddygiad, a’ch perthnasoedd yn y gweithle i’ch helpu i sefyll allan fel arweinydd yn eich sefydliad ac yn eich diwydiant.
083 – Strategaeth Ddigidol
Mae’r cwrs hwn yn archwilio sut mae digideiddio yn ail-lunio’r cyfleoedd a’r bygythiadau sy’n wynebu cwmnïau, a sut gallwch fanteisio ar bŵer digideiddio i ennill.
311 Y casgliad cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol
Mae casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol yn darparu adnoddau addysgol ar-lein, am ddim, gyda’r bwriad o ddatblygu a hyrwyddo ffyrdd newydd o weithio.
264 Arloesi Goruwchddynol
Yn y crynodeb llyfr sain hwn, dysgwch am y posibiliadau mae Deallusrwydd Artiffisial yn eu cynnig i fusnesau a defnyddwyr. Darganfyddwch sut gall Deallusrwydd Artiffisial ein helpu i weithio’n gyflymach, optimeiddio perfformiad, a galluogi cwmnïau i arloesi o ran atebion i rai o broblemau mwyaf y byd.
249 SharePoint a Thrawsnewid Digidol: Safleoedd ar Gyfer Cydweithio a Chyfathrebu
Dysgwch sut i benderfynu ai safle cydweithio neu safle cyfathrebu yn SharePoint sydd orau i’ch sefyllfa, yn ogystal â sut i adeiladu’r ddau safle modern hyn.