440 Canllaw Mannau Dysgu ac Addysgu

Yn PCYDDS, mae ein mannau dysgu ac addysgu yn sylfaenol i’n gwerth craidd o drawsnewid addysg, trawsnewid bywydau. Dyna pam rydyn ni’n darparu cyfleusterau addysgu a dysgu gyda’r offer TG a Chlyweled diweddaraf i helpu i gyflawni ein gweledigaeth.

271 – Cymryd Cyfrifoldeb am Eich Datblygiad

Cyn i chi allu arwain pobl eraill yn effeithiol, mae angen i chi eich arwain eich hun. Yn y cwrs hwn, dysgwch sut i reoli eich meddylfryd, eich ymddygiad, a’ch perthnasoedd yn y gweithle i’ch helpu i sefyll allan fel arweinydd yn eich sefydliad ac yn eich diwydiant.

083 – Strategaeth Ddigidol

Mae’r cwrs hwn yn archwilio sut mae digideiddio yn ail-lunio’r cyfleoedd a’r bygythiadau sy’n wynebu cwmnïau, a sut gallwch fanteisio ar bŵer digideiddio i ennill.

267 – Hyfforddiant Hanfodol Sway

Dysgwch sut i greu a rhannu cyflwyniadau rhyngweithiol, adroddiadau a straeon gyda Sway, yr ap poblogaidd sydd wedi’i gynnwys yn Office 365.

265 – Cefnogi a Rhoi Tystiolaeth o Ddysgu Gan Ddefnyddio’r Cyfryngau Digidol

Mae tynnu lluniau, gwneud fideos a chreu recordiadau sain yn waith hawdd i rywun sydd â mynediad at ffôn clyfar neu lechen. Unwaith y cânt eu dal, mae modd lanlwytho a storio ffeiliau delweddau, fideo a sain ar-lein yn hawdd, eu golygu, eu cymysgu â thystiolaeth arall, eu rhannu i’w hasesu a’u hanodi ar gyfer […]