264 – Arloesi Goruwchddynol
Yn y crynodeb llyfr sain hwn, dysgwch am y posibiliadau mae Deallusrwydd Artiffisial yn eu cynnig i fusnesau a defnyddwyr. Darganfyddwch sut gall Deallusrwydd Artiffisial ein helpu i weithio’n gyflymach, optimeiddio perfformiad, a galluogi cwmnïau i arloesi o ran atebion i rai o broblemau mwyaf y byd.
263 – Pecyn Offer i Fyfyrwyr i’ch Helpu i Fynd i’r Afael â Dysgu o Bell
Postiad a ysgrifennwyd i fyfyrwyr gan y myfyrwyr Matty Trueman, Kai Ackroyd, Curtis Alexis-Jones a Gagan Warinch i dynnu sylw at yr offer cydweithio sydd ar gael yn rhad ac am ddim a sut maen nhw’n gallu cefnogi dysgu o bell.
367 – Ymgysylltiad myfyrwyr mewn amgylcheddau dysgu ar-lein a hybrid
Rydym yn gwerthfawrogi y gall darparu Hyflex, sef addysgu cynulleidfaoedd ar-lein ac wyneb yn wyneb, fod yn anodd i ddechrau. Byddwn yn mynd â chi trwy rai o’r offer ymgysylltu y gallwch eu defnyddio yn ystod eich sesiynau ar-lein neu hybrid.
262 – Dweud Stori yn Null Sway
Chi sy’n dweud wrth Sway beth sy’n bwysig i chi a bydd Sway yn gofalu am y gweddill. Dyma ddull Sway.
261 – Storio Ffeiliau: Deall y Gwahaniaethau Rhwng Onedrive, Teams a SharePoint
Mae’r modd y gallwch chi weithio gyda ffeil a’i rheoli yn dibynnu ar ba lyfrgell yn y cwmwl y mae’n bodoli. Yn y fideo hwn, dysgwch sut i osod ffeil yn OneDrive, SharePoint, neu sianel Teams fel y bo angen.
260 – Aros yn Gysylltiedig Gyda Sgyrsiau
Aros yn gysylltiedig gyda sgyrsiau ym Microsoft Teams.
315 – Hyfforddiant Hanfodol SPSS Statistics
Rhaglen dadansoddi ystadegau a data ar gyfer busnesau, llywodraethau, sefydliadau ymchwil a sefydliadau academaidd yw SPSS Statistics. Ar y cwrs hwn, bydd Barton Poulson yn cymryd ymagwedd ymarferol, weledol ac anfathemategol at SPSS Statistics, gan egluro sut i ddefnyddio’r rhaglen boblogaidd i ddadansoddi data mewn ffyrdd sy’n anodd neu’n amhosibl mewn taenlenni, ond heb i […]
259 – Monitro’r Cyfryngau Cymdeithasol: Strategaethau a Sgiliau
Ymunwch â’r strategydd ar y cyfryngau digidol a chymdeithasol, Martin Waxman, wrth iddo gymharu apiau allweddol ar gyfer gwrando a monitro cymdeithasol, a disgrifio beth gall pob un ei wneud i’ch busnes, yn ogystal â sut i wneud platfformau megis Hootsuite yn ganolfan reoli ar gyfer gwrando cymdeithasol.
258 – Marchnata ar y Cyfryngau Cymdeithasol: Strategaeth ac Optimeiddio
Dysgwch ddull tri cham ar gyfer optimeiddio’ch cymysgedd o farchnata ar y cyfryngau cymdeithasol. Cewch safbwynt newydd ar eich cynnwys, eich dewis o ran platfform, a’ch strategaeth.
257 – Marchnata ar y Cyfryngau Cymdeithasol: Adenillion o Fuddsoddi
Mae’r cwrs hwn yn eich helpu i fynd tu hwnt i fetreg balchder, megis nifer y bobl sydd wedi eich hoffi, i ddangos yn union sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn creu gwerth i’ch sefydliad.