238 – Mynediad o Bell a Gweithio Gartref
Dysgwch pa ddulliau sydd ar gael i’ch galluogi i weithio i ffwrdd o’r campws gan ddefnyddio gliniaduron y Brifysgol neu eich dyfais bersonol eich hun.
237 – Lleihau Tensiwn Trwy’r Anadl
Dysgwch sut i ddefnyddio ymarferion anadlu syml i wella’ch llesiant meddyliol a chorfforol – mewn ychydig o eiliadau.
236 – Ailddiffinio Dadansoddeg Dysgu yn y Gweithle
Dysgwch sut i ddefnyddio dadansoddeg dysgu i sbarduno gwell mewnwelediad ar gyfer eich sefydliad Dysgu a Datblygu.
235 – Recriwtio Doniau Gyda’r Cyfryngau Cymdeithasol
Dysgwch sut i recriwtio’r doniau gorau drwy blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol megis LinkedIn, Twitter a Facebook.
234 – Recordio Darlithoedd a Chyflwyniadau
Gosodwch dechnoleg yn eich addysgu. Dysgwch sut i ddefnyddio technoleg i gyfoethogi dylunio cyrsiau, cynllunio gwersi, cyflwyniadau, gweithgareddau yn y dosbarth, asesiadau, a chyflawniad ac ymgysylltiad myfyrwyr.
233 – Sylfeini Cysylltiadau Cyhoeddus: Hyfforddiant yn y Cyfryngau
Mae’r arbenigwr Cysylltiadau Cyhoeddus Deirdre Breakenridge yn dynodi rhinweddau llefarydd da ar y cyfryngau, beth i’w ddisgwyl o ryngweithio â newyddiadurwyr, sut i gyfoethogi eich neges gydag ystadegau a dyfyniadau bachog, a sut i addasu eich neges a’r ffordd o’i chyflwyno i sianeli a chynulleidfaoedd penodol ar y cyfryngau.
232 – Diogelwch Seicolegol: Clirio Rhwystrau i Arloesi, Cydweithio a Chymryd Risgiau
Mae’r cwrs hwn yn gallu eich helpu i adnabod a hyrwyddo diogelwch seicolegol, gan glirio’r rhwystrau mawr i arloesi, cysylltu a chydweithio yn eich sefydliad.
231 – Rhwydweithio Proffesiynol
Does dim rhaid bod yn allblyg i fod yn dda wrth rwydweithio. Dysgwch strategaethau rhwydweithio er mwyn rhwydweithio’n ddilys a chysylltu â phobl rydych chi’n wir yn eu hoffi.
230 – Cynhyrchiant: Blaenoriaethu yn y Gwaith
Datglowch gynhyrchiant yn y gwaith ar unwaith drwy flaenoriaethu tasgau a gweithio ar y pethau iawn ar yr adeg iawn.
229 – Awgrymiadau Cynhyrchiant: Defnyddio Technoleg
Yn y rhifyn hwn o’r gyfres Awgrymiadau Cynhyrchiant, mae’r awdur a siaradwr ar arweinyddiaeth gynhyrchiol, Dave Crenshaw, yn eich helpu i fod yn gyfforddus gyda thechnoleg ac yn esbonio sut i fanteisio ar offer a nodweddion penodol i wneud yn fawr o’ch diwrnod gwaith.