333 – Creu Cyfarfod Sianel yn Microsoft Teams
Microsoft Teams bellach yw’r dull arferol o gynnal cyfarfodydd grŵp ar-lein yn y Brifysgol, a hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynnal gweminarau hyfforddi a rhai dosbarthiadau ar-lein. Mae’r canllaw hwn yn dangos i chi sut i greu cyfarfod Microsoft Teams mewn sianel.
248 – Gosod Terfynau Gyda’ch Ffôn Clyfar
Dysgwch awgrymiadau cyflym ac ymarferol i osod ffiniau rhesymol a defnyddio eich ffôn clyfar yn ddoeth, yn hytrach na theimlo ei fod yn eich defnyddio chi.
247 – Arloesi o Ran Gwasanaethau
Sut i ddynodi arloesi o ran gwasanaethau – arloesi o ran proses, gwasanaethau newydd, a modelau busnes newydd ar sail gwasanaeth – ac wedyn eu hymgorffori yn eich busnes.
246 – Sylfeini Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO)
Mae’r cwrs hwn yn ymwneud â meistroli’r pethau sylfaenol hynny. Ymunwch â’r hyfforddwr David Booth wrth iddo gwmpasu sut i wneud gwelliannau sy’n hybu amlygrwydd eich gwefan ar beiriannau chwilio, gan ddenu’r math iawn o draffig i’r tudalennau iawn ar eich gwefan.
244 – Gwerthu i Mewn i Ddiwydiannau: Cwmnïau Technoleg
Mae cwmnïau technoleg yn symud ac yn gwneud penderfyniadau’n gyflym. Yn y cwrs hwn, dysgwch sut i weithio allan pwy yw’ch prynwr technoleg a sut i ennill ei fusnes mewn amgylchedd sy’n newid yn barhaol.
243 – Awtomeiddio Prosesau Robotig, Deallusrwydd Artiffisial a Thechnoleg Wybyddol i Arweinwyr
Dysgwch beth mae angen i uwch-reolwyr ei wybod i symud o gwmpas gweithrediadau digidol, hidlo’r sŵn, a digideiddio eu sefydliad gan ddefnyddio Awtomeiddio Prosesau Robotig (RPA), Dysgu Peirianyddol (ML), dadansoddeg, a Deallusrwydd Artiffisial.
242 – Llunio’ch Proffil LinkedIn
Dysgwch sut i greu proffil LinkedIn sy’n adrodd eich stori unigryw ac sy’n gallu eich helpu i sefyll allan i ddarpar gyflogwyr.
241 – Rheoli a Rhannu Data Ymchwil
Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i reoli a rhannu data ymchwil ar gyfer dysgwyr.
240 – Trwsio’ch Enw Da
Cewch broses dri cham i werthuso’r niwed, creu cynllun, ac ymateb â ffocws.
239 – Dysgu o Bell
Mae dysgu o bell yn dod â heriau newydd, o ymdopi ag amser heb strwythur i ddeall technolegau newydd a ffyrdd newydd o weithio.