314 Power BI: Dangosfyrddau i Ddechreuwyr
Canllaw byr a syml i ddechreuwyr i Power BI. Yn y cwrs cyflym hwn, mae Joshua Rischin yn symleiddio’r broses o adeiladu dangosfyrddau yn Power BI, yr offeryn dadansoddeg busnes a delweddu data pwerus gan Microsoft.
313 Power BI: Hyfforddiant Hanfodol
Darganfyddwch sut i gael mewnwelediadau o’ch data yn gyflym gan ddefnyddio Power BI. Gall y set ardderchog hon o offer dadansoddeg busnes – sy’n cynnwys gwasanaeth Power BI, Power BI Desktop, a Power BI Mobile – eich helpu i greu a rhannu delweddau grymus yn fwy effeithiol gydag eraill yn eich sefydliad.
215 Cynllunio a Chysylltu Gyda Microsoft To Do
Cychwynnwch arni’n gyflym gyda Microsoft To-Do – rhestr syml o bethau i’w gwneud ar draws platfformau sy’n gadael i chi reoli popeth mae angen i chi ei wneud mewn un lle.
214 Cynnig Eich Syniadau’n Strategol
Dysgwch sut i gydweithio’n effeithiol er mwyn cael gwell cynhyrchiant a chanlyniadau yn y gwaith.
418 Cynghorion Cyflym Photoshop
Weithiau, mae angen i chi eistedd i lawr a mynd ati go iawn i ddysgu am fanylion rhaglen. Bryd arall, does gennych chi ddim amser i wneud hynny. Yn y cwrs hwn, mae Jan Kabili’n mynd trwy gyfres o gynghorion cyflym am Photoshop, gyda’r nod o ddatrys problemau a thasgau cyffredin yn gyflym.
213 Photoshop i Olygyddion Fideo: Sgiliau Craidd
Dysgwch am nodweddion Adobe Photoshop sy’n ddefnyddiol i olygyddion fideo. Mae’r hyfforddwr Rich Harrington yn disgrifio cysyniadau delweddu digidol craidd ac yn dangos sut i wneud addasiadau delwedd sylfaenol, megis cywiro dinoethiad a chyferbyniad.
091 – Awgrymiadau E-Ddysgu
419 Hyfforddiant Hanfodol Photoshop 2023
Pa un a ydych yn weithiwr proffesiynol creadigol profiadol neu’n awyddus i wneud yn fawr o’ch camera newydd, y buddsoddiad gorau y gallwch ei wneud i elwa cymaint â phosibl ar eich picseli yw dysgu sut i ddefnyddio Photoshop 2023 yn effeithlon ac yn effeithiol. Mae Photoshop yn gynnyrch manwl, cymhleth sydd weithiau’n ddigon i […]
080 – Llythrennedd y Cyfryngau Digidol: y Sgil Mwyaf Gwerthfawr i’r Oes Ddigidol
Gyda mwy o ddibynnu ar dechnoleg, mae llythrennedd y cyfryngau digidol yn cael cydnabyddiaeth gynyddol fel yr offeryn mwyaf gwerthfawr ar gyfer dysgu gydol oes.
079 – Sylfeini’r Cyfryngau Digidol
Mae’r cwrs hwn i unrhyw un sy’n chwilfrydig am y fecaneg tu ôl i’r cyfryngau a welir ar ddyfeisiau. Os ydych yn ddylunydd, ffotograffydd, artist graffeg gyfrifiadurol, cymysgwr sain, golygydd fideo, neu artist graffeg symud sydd wedi’i hyfforddi’i hun, mae gennych ddealltwriaeth dda o’r offer rydych yn eu defnyddio, ac yn gwybod y canlyniadau yr […]