207 – Outlook: Awgrymiadau a Thriciau
Cewch chi awgrymiadau, triciau a llwybrau byrion bysellfwrdd a fydd yn cynyddu eich effeithiolrwydd gydag Outlook.
069 – Sylfeini Cronfeydd Data: Cyflwyniad i Gronfeydd Data
Beth yw cronfa ddata? Sut gallwch adeiladu un? Eisiau dysgu rhagor? Yn y cwrs hwn, mae’r arbenigwr ar gronfeydd data, Adam Wilbert, yn dangos i chi sut i gychwyn gweinyddion seiliedig ar gynwysyddion, cysylltu rhyngwyneb defnyddiwr graffigol rheoli, a dechrau adeiladu cronfa ddata ar gyfer eich data gwerthfawr.
206 – Outlook: Rheoli Amser Gyda’r Calendr a Thasgau
Dysgwch sut i ddefnyddio’r gallu cadarn o ran calendr a rheoli tasgau yn Outlook i reoli eich amserlenni a’ch rhestr o bethau i’w gwneud.
205 – Trefnu Eich Swyddfa o Bell ar Gyfer y Cynhyrchiant Mwyaf
Dysgwch sut i ddefnyddio eich arddull gynhyrchiant bersonol i greu man gwaith bwriadol; addasu unrhyw ystafell, beth bynnag fo’i maint; dewis yr offer a’r dechnoleg iawn.
068 – Sylfeini Cronfeydd Data: Strwythurau Data
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar saith cysyniad craidd: mathau o ddata, dylunio cronfa ddata wedi’i normaleiddio, dynodi rhesi gydag allweddau cynradd, cysylltu data ag allweddau estron, ffurfioli perthnasoedd data, mynegeion, a chyfyngiadau.
067 – Delweddu Data ar Gyfer Dadansoddi Data a Dadansoddeg
Dechreuwch feddwl yn fwy eglur a strategol am ddelweddu data. Dysgwch sut i ddefnyddio arferion gorau delweddu a dylunio er mwyn cyfleu data i unrhyw gynulleidfa.
204 – Trefnu Ffeiliau yn Google Drive
Dysgwch sut i storio, rhannu a chael mynediad i dogfennau, cyflwyniadau, ffurflenni a ffotograffau yn y cwmwl.
203 – Dysgu a Datblygu Sefydliadol
Dysgwch sut i adeiladu rhaglen dysgu a datblygiad i ddenu a chadw doniau a helpu gweithwyr i ddatblygu’r sgiliau sy’n cadw eich sefydliad yn gystadleuol.
202 – Mynediad Agored a’r Dirwedd Ymchwil
Cyflwyniad i ymchwil mynediad agored a’i fuddion, gan gynnwys rhestr o’r holl leoedd y gallwch ddod o hyd i ymchwil mynediad agored.
438 Canllaw Dysgu ac Addysgu Ar-lein
Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am gael mynediad i ddarlithoedd a chyfarfodydd ar-lein, meddalwedd arbenigol ac awgrymiadau eraill ar gyfer dysgu ac addysgu ar-lein yn PCYDDS.