298 Defnyddio Eich Cyfrifiadur Neu Ddyfais (Learn My Way)

Dysgwch am ddefnyddio cyfrifiadur neu ddyfais symudol megis ffôn neu lechen. Mae’r pwnc hwn yn cwmpasu sgiliau sylfaenol megis defnyddio bysellfwrdd, llygoden neu sgrin gyffwrdd.  Sylwch y bydd angen i chi gofrestru am ddim i gael mynediad i’r cwrs hwn.

283 Y Diwrnod Gwaith Meddylgar – Cyflwyniad

Dewch â’r gorau ohonoch chi i’r gwaith. Ymunwch â Dr. Britt Andreatta yn y Diwrnod Gwaith Meddylgar, cyfres o ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar i’ch cadw’n gysylltiedig, â’ch traed ar y ddaear, ac â ffocws yn y gwaith.

440 Canllaw Mannau Dysgu ac Addysgu

Yn PCYDDS, mae ein mannau dysgu ac addysgu yn sylfaenol i’n gwerth craidd o drawsnewid addysg, trawsnewid bywydau. Dyna pam rydyn ni’n darparu cyfleusterau addysgu a dysgu gyda’r offer TG a Chlyweled diweddaraf i helpu i gyflawni ein gweledigaeth.

265 Cefnogi a Rhoi Tystiolaeth o Ddysgu Gan Ddefnyddio’r Cyfryngau Digidol

Mae tynnu lluniau, gwneud fideos a chreu recordiadau sain yn waith hawdd i rywun sydd â mynediad at ffôn clyfar neu lechen. Unwaith y cânt eu dal, mae modd lanlwytho a storio ffeiliau delweddau, fideo a sain ar-lein yn hawdd, eu golygu, eu cymysgu â thystiolaeth arall, eu rhannu i’w hasesu a’u hanodi ar gyfer […]

239 Dysgu o Bell

Mae dysgu o bell yn dod â heriau newydd, o ymdopi ag amser heb strwythur i ddeall technolegau newydd a ffyrdd newydd o weithio.

229 Awgrymiadau Cynhyrchiant: Defnyddio Technoleg

Yn y rhifyn hwn o’r gyfres Awgrymiadau Cynhyrchiant, mae’r awdur a siaradwr ar arweinyddiaeth gynhyrchiol, Dave Crenshaw, yn eich helpu i fod yn gyfforddus gyda thechnoleg ac yn esbonio sut i fanteisio ar offer a nodweddion penodol i wneud yn fawr o’ch diwrnod gwaith.