115 Sut Gaf i Fynediad i Adobe Creative Cloud?

Cewch fynediad i ystod o feddalwedd greu ddigidol yn rhad ac am ddim fel aelod o staff yn y Drindod Dewi Sant. Ymhlith pethau eraill cewch fynediad i offer golygu delweddau a fideo. Mae rhai myfyrwyr hefyd yn gymwys i gael mynediad iddi yn ddibynnol ar eu cwrs.

114 Sut Bydd Cadwyni Bloc yn Newid Busnes

Mae cadwyni bloc ar fin tarfu ar ddiwydiannau hirsefydlog a dryllio modelau busnes confensiynol. Hyfforddwch eich ymennydd i weld cyfleoedd a heriau’r don nesaf hon o newid digidol.

113 Eich Gwneud Eich Hun yn Atebol

Darganfyddwch sut i’ch rheoli’ch hun yn well drwy fabwysiadu’r meddylfryd atebolrwydd. Dysgwch am gamau penodol, ymarferol y gallwch eu cymryd i weithredu atebolrwydd.

112 Guy Kawasaki ar Sut i Ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol

Mae’r entrepreneur ac arbenigwr ar y cyfryngau cymdeithasol, Guy Kawasaki, â 1.4 miliwn o ddilynwyr ar Twitter a mwy na chwarter miliwn o bobl wedi ei hoffi ar Facebook. Yma mae’n rhannu’i brofiad a’i wybodaeth ynghylch sut i fod yn llwyddiannus ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer brandio personol a phroffesiynol.

111 Rhoi a Derbyn Adborth

Mae pob gweithiwr proffesiynol yn ceisio gwella beth mae’n ei wneud. Ble bynnag rydych yn gweithio, neu beth bynnag yw’ch rôl, yr unig ffordd o wella yw gydag adborth. Mae rhoi – a derbyn – adborth yn sgil sy’n berthnasol i bob aelod o sefydliad.