254 – Tueddiadau Marchnata ar y Cyfryngau Cymdeithasol

Mae’r gyfres hon yn rhoi sylw i’r tueddiadau blaenaf y dylech ystyried eu mabwysiadu, yn cynnwys yr esblygiad nesaf o farchnata gan ddylanwadwyr, hysbysebion dynamig, siopa cymdeithasol, a sut dylai brandiau eirioli ynghylch achosion cymdeithasol perthnasol.

335 – Sefydlu Gweminar yn Microsoft Teams

Microsoft Teams bellach yw’r dull diofyn ar gyfer cynnal cyfarfodydd grŵp ar-lein yn PCYDDS, a bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynnal gweminarau hyfforddi a rhai dosbarthiadau ar-lein. Mae’r canllaw hwn yn dangos i chi sut i sefydlu Gweminar yn Microsoft Teams.